Arfordir Chubut

celtig andes teithiau yn y wladfa patagonia

Gwylio Morfilod - Gorynys Valdés - Safle Treftadaeth UNESCO

Morfilod, Gorynys Valdés, ger Porth Madryn, Y Wladfa, Patagonia

Taith diwrnod llawn yn ymweld â Gorynys Valdés, safle treftadaeth y Byd UNESCO sydd yn adnabyddus am ei bioamrywiaeth ac am ei morfilod Wright, prif atyniad yr orynys. Mae’r orynys gyferbyn â Porth Madryn dros y Bae Newydd. Byddwch yn cael eich tywys i rannau eraill ar yr orynys, yn bennaf i Caleta Valdés er mwyn gweld anifail ysblennydd arall, yr eliffant môr. Anifeiliaid eraill a welid, o bosib, yw llewod môr, gwanaco, dulog, petris, estrys, llwynogod, fwlturiaid, mara (ysgyfarnog Patagonia) a heidiau o adar o bob lliw.

 

Nythfa Pengwiniaid Punta Tombo

Pengwin Punta Tombo, ger Trelew, Patagonia, Dyffryn Camwy, Y Wladfa

Punta Tombo yw nythfa pengwiniaid Magellan fwyaf y byd. Mae wedi ei leoli i’r de o Trelew, Dyffryn Camwy ac yn cynnig cyfle unigryw i fod yn rhan o gymdeithas o dros filiwn o bengwiniaid Magellan. Bydd cyfle i gerdded ymysg yr adar bach hoffus hyn, sylwi ar eu gweithgareddau, eu cerddediad doniol a’r modd y maen nhw’n gofalu am eu nythod a magu eu cywion ymysg y llwyni.

 

 

Porth Madryn

Cymraes Porth Madryn, Patagonia, Y Wladfa

Glaniodd mintai y Mimosa ger Penrhyn yr Ogofau ar Orffennaf 28, 1865. Mae’r ddinas wedi ei henwi ar ôl Love Jones-Parry, Barwn Madryn, a oedd wedi arolygu’r rhanbarth gyda Lewis Jones yn 1863. Symudodd y Cymry i Trerawson ar ôl glanio er mwyn ymsefydlu yn nyffryn Afon Camwy ac erbyn 1886 adeiladwyd rheilffordd oedd yn cysylltu ardaloedd amaethyddol Dyffryn Camwy â’r Bae Newydd, prif borthladd y Wladfa. Tyfodd Porth Madryn o gwmpas pen Bae Newydd y rheilffordd honno. Gefeilliwyd Porth Madryn â Nefyn yng Nghymru yn 1998.

Ymysg atyniadau Cymreig y ddinas mae Amgueddfa’r Glaniad ar bwys Penrhyn yr Ogofau ac yn ymyl yr ogofau a ddefnyddiodd mintai y Mimosa yn lloches. Atyniad arall yw cerflun ‘Cymraes Madryn’ - cofgolofn i’r Cymry a godwyd yn 1965 i ddathlu canmlwyddiant y glaniad. Mae cofgolofn i frodorion y Tehuelche a fu mor gyfeillgar tuag at y Cymry. Yma hefyd mae hen adeilad Cwmni Masnachol Camwy gyda symbolau’r cwmni i’w gweld o hyd. Atyniadau eraill yw’r Ecocentro gyda’i arddangosfeydd amrywiol o fywyd môr, a’r amgueddfa gwyddorau naturiol a morol yn Chalet Pujol.

Taith Cwch Dolffin Commerson - Porthladd Puerto Rawson

Dolffin Commerson, Arfordir Chubut, ger Rawson, Dyffryn Camwy, Y Wladfa, Patagonia

Nid oes llawer o lefydd yn y byd lle mae’n bosib gweld y dolffin bach du a gwyn hwn yn ei amgylchedd naturiol. Mae Playa Unión, traeth ger aber Afon Camwy, yn un o’r lleoedd hyn. Mae’r dolffin Commerson yw cadw yn agos at arfordiroedd ac o fewn ychydig o lathenni i’r lan. Gellir eu gweld tra’n hwylio ar gychod cyflym sy’n cael eu gyrru gan bobl broffesiynol sy’n meddu’r cymwysterau angenrheidiol i sicrhau eich bod yn ddiogel tra’n derbyn y profiad bythgofiadwy hwn ac yn mwynhau golygfeydd o arfordir anhygoel Patagonia.

 

teithiau i patagonia y wladfa gan celtig andes
  Español    English
hafan
Hafan tudalen gwe Andes Celtig, Trevelin, Cwm Hyfryd, y Wladfa, Patagonia
» ARFORDIR
disgrifiad o atyniadau arfordir chubut
DYFFRYN CAMWY
disgrifiad o atyniadau Dyffryn Camwy
» byd natur
disgrifiad o atyniadau byd natur Dyffryn Camwy
» diwylliant
disgrifiad o atyniadau byd natur Dyffryn Camwy
» PAITH
disgrifiad o atyniadau y Paith
CWM HYFRYD
disgrifiad o atyniadau Cwm Hyfryd
» byd natur
disgrifiad o atyniadau byd natur Cwm Hyfryd
» diwylliant
disgrifiad o atyniadau diwylliant Cwm Hyfryd
» antur
disgrifiad o atyniadau antur Cwm Hyfryd
» BUENOS AIRES
disgrifiad o atyniadau buenos aires