Yr Ariannin
Mae’r Ariannin ym mhen eithaf deheubarth De America. Hi yw’r wlad ail fwyaf yn Ne America, ar ôl Brasil, a’r wythfed fwyaf yn y Byd. Mae tua 1,425 cilomedr (885 milltir) ar draws o’r dwyrain i’r gorllewin ar ei lletaf ac yn ymestyn am 5,100 cilomedr (3,170 milltir) o’r gogledd i’r de.
Gwybodaeth Gyffredinol
| Poblogaeth: | tua 40 miliwn |
| Prifddinas: | Buenos Aires (poblogaeth tua 12 miliwn) |
| Pobl: | 85% o dras Ewropeaidd, 15% o dras gymysg frodorol - Ewropeaidd a lleiafrifoedd eraill. |
| Cadwraeth: | 10 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, 32 o Barciau Cenedlaethol neu Daleithiol. |
| Iaith: | Sbaeneg, nifer o ieithoedd brodorol ac eraill fel Cymraeg mewn rhannau yn Patagonia. |
| Amser: | GMT -3 awr gydol y flwyddyn. |
| Trydan: | 220V, 50Hz. Socedau yn amrywio rhwng rhai 2 bin crwn a 3 pin fflat groeslin. |
Pasportau a Theithebau
Nid oes angen teithebau ar ymwelwyr o wledydd Prydain. Mae angen pasport dilys, sydd yn caniatáu ymweld â’r wlad am gyfnod o 90 niwrnod.
Iechyd a Brechiadau
Nid oes angen brechiad cyn ymweld â’r Ariannin. Mae safonau iechyd yn dda ar y cyfan. Ym Mhatagonia, nid oes unrhyw ymlusgiad neu bryfaid gwenwynig, nag unrhyw anifail ysglyfaethus peryglus. Ond rhaid amddiffyn eich hunan rhag yr haul cryf a’r heidiau o fosgitos (nid rhai sy’n cario malaria) yn ystod y misoedd poeth mewn rhai mannau.
Er bod dŵr tap y wlad yn ddiogel i’w yfed yn gyffredinol, mae gofyn bod yn wyliadwrus yng nghefn gwlad. Y cyngor gorau yw yfed dŵr botel.
Tywydd a Dillad
Gan fod Patagonia yn hemisffer y de, mae’r tymhorau o chwith o gymharu â Chymru a gweddill hemisffer y gogledd. Mae’n bosib ymweld â Buenos Aires a’r Wladfa bron drwy’r flwyddyn. Anaml iawn y bydd y tywydd yn drysu trefniadau. Yr amseroedd gorau i ymweld â’r Wladfa - a gweddill Patagonia - yw rhwng Medi a Mai (gwanwyn tan yr Hydref). Mae Ionawr a Chwefror yn boeth iawn gyda’r gwres yn uchel yn ystod y dydd. O ran dillad, rhaid paratoi ar gyfer pob posibilrwydd gan fod yna newid mawr rhwng Buenos Aires - llaith a phoeth - nosweithiau sych ac oer y Paith - a hinsawdd gymedrol Cwm Hyfryd yn yr Andes. Y cyngor gorau yw dewis eich dillad fel eich bod yn gallu gwisgo neu dynnu haenau o ddillad yn ôl y gofyn. Rhaid wrth esgidiau cerdded addas a het yn gysgod rhag yr haul.
Arian
Arian cyfredol yr Ariannin yw’r “peso” sydd yn cynnwys 100 “centavo”. Mae doleri $UDA yn cael eu derbyn fel arian cyfredol mewn gwestai a busnesau mawr. Y cyngor gorau yw cario rhyw faint o ddoleri $UDA glân heb farc o unrhyw fath a hefyd, rhywfaint o sieciau teithio $UDA (Thomas Cook neu American Express) ond mae’r rhain yn anhwylus ac yn ddrud i’w newid y tu allan i Buenos Aires ond mae’n bethau da i’w cael wrth gefn. Y dewis gorau yw cardiau plastig (debyd a chredyd). Mae MasterCard a Visa yn cael eu derbyn yn eang. Mae’n bosib defnyddio cardiau credyd a chardiau debyd ym mheiriannau arian parod y banciau sydd ddim yn anodd cael hyd iddynt.

