Buenos Aires, Brasil ac Wrwgwai
Dinas Buenos Aires
Mae’r bleserdaith yma yn gyfle i ddod i adnabod ychydig ar Buenos Aires. Ymysg y llefydd byddwch yn ymweld â hwy bydd Avenida 9 de Julio, Theatr Colón, Obelisco, Congreso, Viejo Congreso, Manzana de las Luces, Plaza de Mayo, La Boca, El Caminito, Palermo, Recoleta ac os oes amser, Café Tortoni. Mae’r wibdaith yn cynnwys cinio mewn bwyty ar lân yr hen borth ar y Costanera Norte, Puerto Madero.
Sioe Tango
Mwynhewch sioe Tango mewn awyrgylch cartrefol gyda phryd o fwyd wedi ei gynnwys. Cewch glywed sut mae’r Tango traddodiadol yn cael ei datgan y dyddiau hyn trwy wrando ar gerddorfa Tango a gweld dawnswyr yn mynegi eu crefft tra’r ydych yn mwynhau eich pryd.
 
Diwrnod ar Estancia – Y Pampas
Teithio i’r Pampas at estancia (ransh) draddodiadol i fwynhau diwrnod gyda gauchos. Ar ôl cyrraedd, byddwch yn derbyn croeso mewn adeilad nodweddiadol gyda empanadas (math o bastai), diodydd ysgafn a gwinoedd. Byddwch wedyn yn cael eich tywys o gwmpas yr estancia i ymweld â’r prif adeilad, sef cartref y perchennog, yr amgueddfa, y becws, y stablau ac adeiladau eraill. Yna byddwch yn cael cyfle i fynd am dro â cheffyl a throl, neu ar gefn ceffyl os ydych yn dewis. Dilynir hyn gan Sioe Gaucho a gwledd o gigoedd rhost, llysiau, bara a gwinoedd (asado) gyda dawnswyr a chantorion yn dehongli cerddoriaeth a dawnsiau gwerin yr Ariannin. Yn y prynhawn, byddwch yn derbyn cyfle i weld y gauchos ar eu ceffylau yn eich difyrru wrth iddynt gyflawni eu gweithgareddau a chwaraeon. Yn dilyn hyn bydd cyfle i fynd am dro ac ymweld â siopau yr estancia a mwynhau ardal wledig y Pampas.
Colonia del Sacramento - Wrwgwai
Taith diwrnod llawn yn cychwyn gyda theirawr bleserus ar long dros yr Afon Arian i Colonia del Sacramento. Mae’r hen ddinas Bortiwgeaidd hon yn dyddio o’r 17ed canrif ac yn un o ddinasoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Ar ôl cinio, sydd wedi’i gynnwys yn y pris, byddwch yn mynd ar wibdaith o gwmpas y ddinas gan ymweld â’r ardal hanesyddol Barrio Histórico a’i hamgueddfeydd, ac yna ar hyd yr arfordir nes cyrraedd Real de San Carlos a Plaza de Los Toros. Yna cewch gyfle i fwynhau amser rhydd cyn dychwelyd i Buenos Aires yn hwyr.
Rhaeadrau Iguazú – Ariannin a Brasil
Mae rhaeadrau Iguazú yn un o safleoedd treftadaeth UNESCO. Mae’r rhaeadrau trawiadol yma wedi eu hamgylchynu â bywyd gwyllt a llystyfiant heb fesur ac oherwydd hyn yn un o gyrchfannau twristiaeth fwyaf poblogaidd y byd. Mae’r system yn cynnwys 250 rhaeadr, 200 ar ochr yr Ariannin a 5 ar ochr Brasil. Mae’r rhaeadrau yn disgyn 82 metr (270 troedfedd) ac yn 4 cilomedr (2.5 milltir) ar draws sy’n gwneud y rhaeadrau ymysg y pwysigaf ac ysblennydd yn y byd. Bydd ymweliad â Iguazú yn cynnwys teithiau i Puerto Iguazú ar ochr yr Ariannin a Fox do Igaucu ar ochr Brasil.

