Dyffryn Camwy – Hanes a Diwylliant

celtig andes teithiau yn y wladfa patagonia

Gaiman

Capel Bethel, Gaiman, Dyffryn Camwy, Y Wladfa, Patagonia

Sefydlwyd pentref Gaiman yn 1874 a ffurfiwyd llywodraeth fwrdeistrefol Gaiman – y cyntaf yn nhalaith Chubut - yn 1885 gydag awdurdod dros y dyffryn cyfan. Am lawer o flynyddoedd yn y Gymraeg a’r Sbaeneg y cofnodwyd manylion y llywodraeth. Ystyr Gaiman yn iaith frodorol y Tehuelche yw "carreg hogi" neu “carreg finiog”. Adeiladwyd ty^ cyntaf Gaiman gan David D. Roberts yn 1874.

Prif atyniadau’r pentref heddiw yw ei Gymreictod a’r cymeriadau sydd yn byw yno a bydd cyfle am sgwrs ddifyr gyda disgynyddion y gwladfawyr gwreiddiol. Atyniadau eraill o bwys yw Capel Bethel a’r Hen Gapel, yr Amgueddfa Hanes yn adeilad yr hen orsaf reilffordd, y Tŷ Cyntaf a Coleg Camwy. Hefyd, mae nifer o dai te Cymreig, twnnel yr hen reilffordd, parc thema "El Desafío", llyfrgell Richard Berwyn, cofadail yn cofnodi canmlwyddiant y Wladfa, a hen westy Huw Puw sydd yn gartref i’r Ysgol Gerdd heddiw. Ac ni ddylid anghofio Afon Camwy sy’n rhedeg drwy’r Gaiman.

Trelew

Cofadail Lewis Jones, Trelew, Dyffryn Camwy, Patagonia, Y Wladfa

Dinas Trelew, gyda phoblogaeth o tua 100,000, yw un o brif ganolfannau masnachol Patagonia. Fe’i henwyd ar ôl un o brif sylfaenwyr y Wladfa, Lewis Jones. Erbyn 1886 adeiladwyd rheilffordd oedd yn cysylltu ardaloedd amaethyddol Dyffryn Camwy â’r Bae Newydd, prif borthladd y Wladfa. Tyfodd Porth Madryn a Trelew fel cymunedau y naill ben a’r llall i’r rheilffordd.

Prif atyniadau Cymreig y ddinas yw Capel Tabernacl, Neuadd Dewi Sant sy’n cartrefu swyddfa Cymdeithas Dewi Sant, Amgueddfa Hanes “Pueblo de Luis” yn adeilad yr hen orsaf reilffordd, a chofeb i Lewis Jones. Atyniadau eraill o nod yw’r Amgueddfa Palaeontoleg MEF, bar gwesty’r Touring Club, a’r hen felin “El Viejo Molino”.

 

Trerawson

Capel Berwyn, Trerawson, Dyffryn Camwy, Y Wladfa, Patagonia

Sefydlwyd y Gwladfawyr cyntaf mewn hen amddiffynfa ar lan yr Afon Camwy yn 1865 - hen gaer a godwyd gan Henry Libanus Jones rai blynyddoedd ynghynt. Ym mis Medi 1865 cyrhaeddodd catrawd filwrol o wersyll Patagones 450 cilomedr (280 milltir) i’r gogledd i’r fan dan arweinyddiaeth y Cyrnol Julián Murga ac ar y 15 o Fedi sefydlwyd “Rawson” yn swyddogol er mai Caer Antur oedd enw’r Cymry ar y lle. Fe’i henwyd ar ôl Guillermo Rawson, Gweinidog Cartref yr Ariannin a fu’n trafod sefydlu y Wladfa yn 1863 gyda Lewis Jones a Love Parry-Jones, Barwn Madryn.

Prif atyniadau Rawson, prif ddinas Chubut, yw Capel Berwyn, adfeilion tŷ Lewis Jones, Plas Hedd; porthladd Puerto Rawson, traeth Playa Unión a theithiau mewn cychod sydyn i weld dolffin Commerson.

Capeli a Chamlesi - Dyffryn Camwy

Camlas Tŷ Te Caerdydd, Gaiman, Patagonia y Wladfa, Dyffryn Camwy

Taith yw hon sy’n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig Dyffryn Camwy. Nid oes ffurf bendant i’r daith a’r unig gyfyngiad yw eich awydd chi i grwydro a’r amser sydd gennych. Yn ystod y daith bydd cyfle i weld sut mae ffermwyr y dyffryn yn dyfrio a thrin eu tiroedd er mwyn sicrhau llif sicr o ddŵr gan ddibynnu ar natur y tir a’r defnydd sy’n cael ei wneud ohono.

Wrth deithio yn y dyffryn bydd yn bosib mynd drwy ardaloedd Tair Helygen, Glyn Du, Treorci, Bryn Crwn, Bethesda, Ebenezer, Tir Halen, Lle Cul, Bryn Gwyn, Drofa Dulog, Pont Hendre a Moriah, ymweld â rhai o gapeli Cymraeg y dyffryn (16 i gyd), pentrefi Dolavon a 28 de Julio, amgueddfa hanes Tir Halen, mynwentydd yn llawn o lechi Cymreig, Ceg y Ffos - argae lle cyfeirir dŵr Afon Camwy i’r camlesi dyfrhau - ac o bosib, gyfarfod un neu ddau o gymeriadau’r dyffryn. Byddwch yn mwynhau digonedd o awyr iach pur a golygfeydd hynod y dyffryn.

Capel Moriah - Trelew

Capel Moriah, Trelew, y Wladfa, Dyffryn Camwy, Patagonia

Mae Capel Moriah ar gyrion Trelew, Dyffryn Camwy. Adeiladwyd y capel, y trydydd yn y Wladfa, yn 1880 ac y Parchedig Abraham Matthews oedd y gweinidog cyntaf. Adeiladwyd ef ar dir a roddwyd gan Rhydderch Hughes. Hefyd, defnyddiwyd y capel fel ysgol elfennol yn y blynyddoedd cynnar. Yn unigryw ymysg capeli’r Wladfa, Capel Moriah yw’r unig un lle gwelwch fynwent ynghlwm. Gorffwys llawer o’r fintai gyntaf - gan gynnwys Lewis Jones ac Abraham Matthews - yn y fynwent lle mae llechi a gludwyd o chwareli Cymru. Ar dir y capel mae cofgolofnau’r Parchedig Abraham Matthews ac Edwin Cynrig Roberts. Mae’r capel wedi’i gofrestru’n Gofadail Hanesyddol Daleithiol gan lywodraeth Chubut.

 

Fferm Bod Iwan - Bryn Crwn - Dyffryn Camwy

Fferm Bod Iwan, Bryn Crwn, Dyffryn Camwy, ger Gaiman, Patagonia y Wladfa

Ymweliad â fferm Bod Iwan, fferm Gymreig yn ardal Bryn Crwn ger Gaiman. Ffermdy brics clai traddodiadol gyda waliau wedi’u plastro â mwd. Adeiladwyd y ty^ yn 1910 ar gyfer teulu Llwyd ap Iwan, yn dilyn trasiedi ei farwolaeth. Cafodd Llwyd ap Iwan - un o feibion y Parchedig Michael D. Jones - ei ladd gan ddau leidr yn Nant y Pysgod yn 1909. Yma byddwch yn cael eich tywys gan aelod o deulu presennol Bod Iwan – teulu Williams - ac yn cael gwybod am hanes y teulu a hanes a phwysigrwydd y camlesi a’r ffosydd tuag sicrhau llwyddiant y Wladfa yn y blynyddoedd cynnar. Yna byddwch yn ymweld â’r ffermdy sydd wedi ei gadw yn ei gyflwr gwreiddiol a’i ddodrefnu â dodrefn y cyfnod. Bydd yn bosib trefnu Asado neu de Cymreig os bydd amser.

teithiau i patagonia y wladfa gan celtig andes
  Español    English
hafan
Hafan tudalen gwe Andes Celtig, Trevelin, Cwm Hyfryd, y Wladfa, Patagonia
» ARFORDIR
disgrifiad o atyniadau arfordir chubut
DYFFRYN CAMWY
disgrifiad o atyniadau Dyffryn Camwy
» byd natur
disgrifiad o atyniadau byd natur Dyffryn Camwy
» diwylliant
disgrifiad o atyniadau byd natur Dyffryn Camwy
» PAITH
disgrifiad o atyniadau y Paith
CWM HYFRYD
disgrifiad o atyniadau Cwm Hyfryd
» byd natur
disgrifiad o atyniadau byd natur Cwm Hyfryd
» diwylliant
disgrifiad o atyniadau diwylliant Cwm Hyfryd
» antur
disgrifiad o atyniadau antur Cwm Hyfryd
» BUENOS AIRES
disgrifiad o atyniadau buenos aires