Cwm Hyfryd – Hanes a Diwylliant

celtig andes teithiau yn y wladfa patagonia

Trevelin

Trevelin, Cwm Hyfryd, Patagonia y Wladfa

Cyrhaeddwyd Cwm Hyfryd am y tro cyntaf gan y Cymry yn 1885 yn sgil taith i archwilio’r diriogaeth gyfan. Tywysydd y Rifleros, fel y galwyd y 30 marchog ar y daith, oedd John Daniel Evans. Erbyn 1888 roedd yr arloeswyr cyntaf yn ymsefydlu ar lannau Afon Percy ac erbyn 1918 yr oedd cwmni dan arweiniad J. D. Evans wedi codi melin flawd y tyfodd pentref Trevelin o’i hamgylch.

Atyniadau o ddiddordeb yw’r Amgueddfa Hanes yn yr hen felin honno, Amgueddfa Pentre Sydyn sy’n cofnodi pleidlais gwlad 1902 a ddatrysodd yr anghydfod tiriogaethol rhwng yr Ariannin a Chile, amgueddfa Cartref Taid sydd yn cofnodi bywyd a gweithgareddau J D Evans a Malacara ei geffyl ffyddlon, a chofgolofn Fontana yn y gerddi (Plaza) gydag enwau marchogion y Rifleros. Atyniadau eraill yw Capel Bethel a’r tai te Cymreig.

 

Esquel

Esquel, Patagonia, Cwm Hyfryd y Wladfa

Mae Esquel ym mhen gogleddol Cwm Hyfryd tua 25 cilomedr (16 milltir) o Trevelin. Sefydlodd y gwladfawyr cyntaf yma cyn 1900. Yn eu plith yr oedd teuluoedd Jenkins, Freeman, Evans, Awstin a Roberts. Erbyn heddiw, Esquel yw tref fwyaf talaith Chubut yn yr Andes gyda phoblogaeth o tua 40,000.

Ymysg atyniadau’r dref yw trên bach Trochita, a Capel Seion a’i festri sydd hefyd yn gartref i’r ysgol Gymraeg a’r ganolfan gymunedol.

 

 

Trên Bach Trochita, Esquel

Trên Bach Trochita, Esquel, Cwm Hyfryd, Patagonia y Wladfa

Un o nodweddion trên bach Trochita yw culni y cledrau - 75 centimedr (29.5 modfedd) yn unig. Dyw’r rheilffordd hon heb newid fawr ddim er 1922 ac mae nifer o’r peirannau stêm heb eu tebyg. Mae gwasanaeth cyson i dwristiaid rhwng Esquel a Nahuel Pan, i fyny’r Cwm trwy Fwlch Esquel a 200 metr (650 troedfedd) yn uwch lle gwelwch olygfeydd godidog o’r paith wedi ei grasu gan losgfynyddoedd hynafol i’r gogledd a Mynydd Llwyd i’r de. Mae’r daith gyfan yn cymryd tua phedair awr ac yn rhedeg gydol y flwyddyn.

Ysgrifennodd yr awdur Paul Theroux lyfr enwog "The Old Patagonian Express" yn disgrifio ei daith o Boston, UDA i Esquel ac yn cyrraedd y dref ar y Trochita.

 

Melin Nant Fach, Cwm Hyfryd

Melin Nant Fach ger Trevelin, Cwm Hyfryd y Wladfa, Patagonia

Mae’r amgueddfa hon ar fferm yr Evansiaid tua 22 cilomedr (14 milltir) o Trevelin a thua 13 cilomedr (8 milltir) o’r ffin gyda Chile lle mae’r Afon Fawr yn croesi i’r wlad a rhedeg i’r Môr Tawel. Crëwyd yr amgueddfa gan Mervyn Evans i gofnodi hanes yr amryw felinau blawd yn y Wladfa ar un adeg. Mae’n gweithio gydag olwyn ddŵr ac mae’r meini sy’n malu yn dyddio o 1930. Bydd yn bosib gweld y felin yn gweithio a blawd yn cael ei falu a gwrando ar hanesion y Gwladfawyr a theulu Mervyn Evans.

Mewn ystafell arbennig yn y felin mae’n bosib gweld eitemau yn ymwneud â hanes y Cymry gan gynnwys offerynnau cerddorol, hen beiriannau amaethyddol a wagenni.

teithiau i patagonia y wladfa gan celtig andes
  Español    English
hafan
Hafan tudalen gwe Andes Celtig, Trevelin, Cwm Hyfryd, y Wladfa, Patagonia
» ARFORDIR
disgrifiad o atyniadau arfordir chubut
DYFFRYN CAMWY
disgrifiad o atyniadau Dyffryn Camwy
» byd natur
disgrifiad o atyniadau byd natur Dyffryn Camwy
» diwylliant
disgrifiad o atyniadau byd natur Dyffryn Camwy
» PAITH
disgrifiad o atyniadau y Paith
CWM HYFRYD
disgrifiad o atyniadau Cwm Hyfryd
» byd natur
disgrifiad o atyniadau byd natur Cwm Hyfryd
» diwylliant
disgrifiad o atyniadau diwylliant Cwm Hyfryd
» antur
disgrifiad o atyniadau antur Cwm Hyfryd
» BUENOS AIRES
disgrifiad o atyniadau buenos aires