Cwm Hyfryd – Byd Natur
Gwarchodfa Natur Nant y Fall
Cyfres o raeadrau gloywon sy’n rhaeadru dros nifer o silffoedd creigiog yng nghanol coedwig cypreswydden yw Nant y Fall. Mae’r warchodfa 24 cilomedr (15 milltir) o Trevelin ac yn 540 medr (1,750 troedfedd) yn uwch na lefel y môr. Mae’r safle yn frith o ffawna a fflora nodweddiadol yr ardal. Mae’r llwybrau tua 1,600 medr (1 milltir) o hyd ac yn arwain at leoedd lle sy’n edrych dros Bro Hydref, Cwm Hyfryd, ac ar draws at fynydd Gorsedd y Cwmwl a gweddill mynyddoedd yr Andes.
Parc Cenedlaethol Los Alerces
Mae Parc Cenedlaethol Los Alerces, ger Trevelin, yn un o rai mwyaf y wlad ac yn cynnwys 263,000 hectar o dir (650,000 o aceri - tua’r un arwynebedd a Gwynedd yng Nghymru). Nodwedd amlycaf y parc yw y coedwigoedd Alerce. Ychydig iawn o olion dynol sydd yno ac mae golygfeydd anhygoel, llynnoedd, afonydd a rhaeadrau niferus o bob maint wedi eu hamgylchynu â mynyddoedd wedi eu gorchuddio â choedwigoedd. Cypreswydden Batagonaidd yw’r goeden Alerce ac mae rhai sydd tua 3,000 o flynyddoedd oed yn y parc ac yn 70 metr (230 troedfedd) o uchder.
Un o’r ffyrdd gorau i fwynhau’r parc yw mewn llong y gellir mynd ar ei bwrdd ar lan llyn Lago Futalaufquen neu lyn Lago Menéndez a mwynhau golygfeydd o rewlif Glaciar Torrecillas ar y ffordd. Ym mhen pellaf y llyn gellir dilyn am tuag awr lwybr o anhawster isel canolig er mwyn gweld enghreifftiau o’r goeden Alerce.
Gwarchodfa Natur Llyn Bagillt
Mae Llyn Bagillt wedi ei leoli 30 cilomedr (19 milltir) o Trevelin yn Cwm Hyfryd. Mae’r warchodfa o dan fynydd Cerro Cónico, sydd yn ffurfio’r ffin â Tsile. Mae’r daith i’r llyn yn gyffrous ac fel arfer mae angen cerbyd 4x4 i deithio rhwng y ffordd fawr a’r warchodfa, pellter o 18 cilomedr (11 milltir). Rhewlif y mynydd yw tarddiad dyfroedd tryloyw y llyn sydd dros 1,000 medr (3,280 troedfedd) o uchder. Oherwydd yr uchder mae ffawna a fflora gwarchodfa Llyn Bagillt yn wahanol i weddill y llynnoedd o amgylch Trevelin a Parc Cenedlaethol Los Alerces.
Y ffordd orau o fwynhau’r atyniad yw drwy ddewis taith gerdded o bellter i’ch siwtio a threulio amser hamddenol yn crwydro glannau’r llyn.

