Yr Ariannin - Puerto Iguazú
Wedi ei leoli yn y gogledd yr Ariannin, mae dinas Puerto Iguazú yn 1284km i’r gogledd o’r prif ddinas Buenos Aires, ac mae’n ffinio â Brasil a Paraguay trwy afonydd Paraná ac Iguazú. Gan ei fod yn gyrchfan poblogaidd â thwristiaid, mae'n cynnig y golygfeydd mwyaf godidog o ddŵr a choedwigoedd sy'n bodoli ar y ddaear, sef rhaeadrau trawiadol Iguazú, sydd yn yr iaith Guarani lleol yn golygu "dŵr mawr".
Mae'r rhanbarth gyda hinsawdd laith isdrofannol heb dymor sych, gyda thymheredd yn amrywio o 20º-33ºC yn yr haf tra mae’r gaeaf yn fwyn a dymunol. Teithiau amrywiol i Barc Cenedlaethol Iguazú, wedi ei datgan yn safle treftadaeth naturiol gan UNESCO, i ymweld â rhai o'r 275 rhaeadrau a lle byddwch yn dysgu am y planhigion egsotig a ffawna, yw’r dewis mwyaf poblogaidd gydag ymwelwyr.
Mae Puerto Iguazú yn lle i’ch synnu gan natur ac un o'i datganiadau fwyaf o harddwch.
Dyma rai o'r teithiau yn Puerto Iguazú sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni:
Rhaeadrau Iguazú - Ochr yr Ariannin
Gwelwch olygfeydd ysblennydd wrth i chi gerdded drwy ganol y jyngl. Mae’r daith yn ymweld â’r parc wrth gerdded ar hyd llwybrau yn y goedwig bydd yn mynd a chi yn agosach at y rhaeadrau. Mae llwybr isod yn rhedeg am tua 1,200 medr (3,940 troedfedd) ar hyd ochr afon ac yn pasio drwy waelod rhai rhaeadrau. Mae llwybr uchaf yn caniatáu i chi weld y rhaeadrau oddi uchod. Wedi cerdded y llwybrau hyn y byddwch yn cyrraedd gorsaf Garganta ar y Ecológico Tren de la Selva (trên ecolegol y jyngl) ac oddi yno cyrraedd at olygfeydd o raeadrau Garganta del Diablo sydd gydag uchder o 90 medr (295 troedfedd), ac yw'r mwyaf ymysg rhaeadrau Iguazú. Mae'r teimlad a achosir gan faint a grym y dŵr yn disgyn yn ddigymar â mannau eraill. Mae'r taranu gwyllt mor gryf gall ei glywed sawl milltir i ffwrdd. Mae tarth parhaol y ceunant yn achosi amrywiaeth fawr o enfysau sy’n newid yn gyson i ffurfio.
Rhaeadrau Iguazú - Ochr Brasil
Mae gweld y rhaeadrau o’r ochr arall ym Mrasil yn cynnig golwg arall ar dirlun trawiadol rhaeadrau Iguazú. Ar ôl croesi'r ffin i Frasil, mae’r daith yn parhau i westy Das Cataratas, adeilad hardd ag arddull trefedigaethol Portiwgaleg, lle gallwch werthfawrogi golygfeydd panoramig o Garganta del Diablo a’r rhaeadrau ar ffurf hanner cylch. Mae codwr yn caniatáu i chi weld y rhaeadrau o bersbectif arall yr un mor odidog.
Sioe Swper Rafain
Mae'r wibdaith yma yn nodweddiadol o'r actifeddau twristiaeth yn Foz do Iguaçu ar ochr Brasil i'r rhaeadrau. Mae'r sioe sy'n cynnwys perfformiadau traddodiadol o'r Pampa i Fecsico drwy Folifia, Periw, Paragwai, Tsile, Wrwgwai ac yr Ariannin. Trwy gydol y sioe byddwch yn cael eich synnu gan yr effeithiau arbennig, cerddoriaeth, dawnsiau a'r gwisgoedd nodweddiadol, yng nghwmni cinio bwffe blasus gydag amrywiaeth eang o gigoedd, saladau, prydau oer a phwdinau.