Yr Ariannin - Ushuaia - Tierra del Fuego (Gwlad y Tân)

Ym mhen deheuol yr Ariannin, ar ynys Tierra del Fuego Grande, gorwedda ddinas Ushuaia, y ddinas fwyaf deheuol yn y byd ac yn brifddinas i dalaith Tierra del Fuego. Wedi'i leoli ar glan Sianel Beagle, mae'n cymryd ei enw, sy'n golygu bae yn edrych dros y Gorllewin, gan iaith frodorol yr Yámana. Ariannin - Ushuaia - Tierra del Fuego (Gwlad y Tân), Patagonia O fewn y lleoliad trawiadol oherwydd y môr, y coedwigoedd, llynnoedd a mynyddoedd, mae Ushuaia yn ddinas hardd gyda gwasanaethau twristiaid datblygedig, canolfan fasnachol hardd, a lefel cynyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol.
 
Mae amgylchedd naturiol Ushuaia yn cynnig tirweddau heb eu sathru gan ddyn sy’n gwahodd ymwelwyr i’w ddarganfod a bod yn anturus. Y prif weithgareddau yn y gornel freintiedig yma o’r Byd felly yn gysylltiedig â natur. Ymhlith yr actifeddau hyn yw cerdded, marchogaeth, dringo a phlymio.
 
Ond mae Tierra del Fuego hefyd yn lle ar gyfer myfyrio wrth ymgymryd â gweithgareddau fel mordeithiau a theithiau o amgylch ynysoedd, rhewlifau, baeau a chlogwyni; dim i'w colli. Mae parc cenedlaethol Tierra del Fuego, gydag anifeiliaid a rhywogaethau llysiau cynhenid, a thystiolaeth bwysig o ymfudwyr cyntaf yr ardal, yn gwarchod llynnoedd Fagnano a Roca, y sianel Beagle a'r is-goedwigoedd Antarctig ddeheuol.
 
Wedi eu denu gan y gyfriniaeth arbennig ei daearyddiaeth a'i hamgylchedd naturiol, mae twristiaid o bob cwr y byd yn ymweld ag Ushuaia bob blwyddyn, a thrwy hynny ei gwneud yn un o'r cyrchfannau gorau ar gyfer profiad unigryw.
 
Dyma rai o'r teithiau yn Tierra del Fuego sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni:

Trên ar Derfyn y Byd a Pharc Cenedlaethol Tierra del Fuego

Ariannin - Ushuaia - Trên ar Derfyn y Byd a Pharc Cenedlaethol Tierra del Fuego Mae taith 'Tren del Fin del Mundo' (Trên ar Derfyn y Byd) yn dechrau yn orsaf rheilffordd Ferrocarril Austral Fueguino ar gyrion Ushuaia. Hefyd mae’r trên yn cael ei adnabod fel ‘Tren de los Presos’ (Trên y Carcharorion), ac mae wedi'i fodelu ar drên a ddefnyddir i gludo carcharorion i weithio er mwyn cyflenwi Ushuaia â phren a choed rhyw 100 mlynedd yn ôl.
 
Yn orsaf Diwedd y Byd, gall teithwyr ymweld â'r gweithdai cynnal a chadw sy'n cynhyrchu darnau sbâr ar gyfer y locomotifau a wagenni. Mae hefyd yn bosib ymweld ag amgueddfa sydd ag arddangosfa o ffotograffau am hanes y trên.
 
Mae’r trên yn gadael o'r orsaf ar yr union un arglawdd a ddefnyddir gan garcharorion rhyw 100 mlynedd yn ôl, ac yna yn teithio drwy geunant Cañadón del Toro a chroesi afon Río Pipo dros bont Quemado. Mae’r trên wedyn yn aros ar orsaf Cascada de la Macarena, lle byddwch yn gallu gweld replica o anheddiad Yámana cynhenid, un o'r llwythau brodorol oedd yn byw ar y tiroedd gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Bydd hefyd yn bosibl i esgyn bryn hyd at bwynt golwg er mwyn mwynhau golygfeydd o ddyffryn yr afon Pipo a rhaeadr La Macarena yn gadwyn fynyddoedd Le Martial. Yna bydd y trên yn parhau'r daith trwy goedwig Is-Antarctig, un o'r ychydig yn y byd, ac ymlaen wrth ymyl cors mawn nodweddiadol tan gyrraedd gorsaf Estación del Parque y tu mewn i'r parc.
 
Yna mae'n bosib adnabod parc cenedlaethol Tierra del Fuego, a grëwyd ym 1960, ac sy’n ymestyn dros 63,000 hectar (155,673 erw), ac sydd wedi ei leoli yn y rhanbarthau eco goedwigoedd Patagonia a'r Andes uchel. Mae'r rhanbarth yn cael ei nodweddu gan hinsawdd dymherus i oer a llaith gyda glaw ac eira yn y gaeaf, a thirwedd fynyddig garw a serth gyda dyffrynnoedd rhewlifol.

Sianel Beagle

Ariannin - Ushuaia - Tierra del Fuego - Sianel Beagle Mae’r fordaith yn dechrau yn borthladd y ddinas lle byrddiwch gwch a fydd yn llywio arfordir Ushuaia wrth gynnig golygfeydd o adeiladau pwysicaf yn y ddinas, yr Amgueddfa Forol ac Amgueddfa Diwedd y Byd. Bydd hefyd yn bosib gweld mynyddoedd Olivia a Cinco Hermanos, ransiau Fique a Túnel, mynyddoedd Escarpados, ac afon Río Encajonado.
 
Yna bydd y fordaith yn hwylio i ganol Sianel Beagle nes cyrraedd goleudy Les Eclaireurs sy'n sefyll ar grŵp o ynysigau bach yn y sianel. Wrth anelu tuag at Isla de Los Lobos (Ynys Llewod Môr), gall ymwelwyr weld y mamaliaid môr yn prancio wrth hwylio o amgylch yr ynys.
 
Mae'r daith yn parhau i Isla de los Pájaros (Ynys Adar) i weld y gwahanol rywogaethau o adar môr: mulfrain Magellan, mulfrain ymerodrol, albatrosiaid, pedrynod Fullman, pedrynod fwyaf, sgiwennod, ymhlith eraill. Yn ddiweddarach, bydd y fordaith yn hwylio trwy Paso Chico wrth ddychwelyd i Ushuaia wrth gynnig golygfeydd godidog o'r ddinas wedi eu fframio gan Monte Martial a'i rhewlif o’r un enw.

Estancia Harberton

Ariannin - Ushuaia - Tierra del Fuego - Estancia Harberton Estancia Harberton yw'r ransh hynaf yn Tierra del Fuego ac mae wedi ei leoli ar lan Sianel Beagle, 85 km (53 milltir) i'r dwyrain o Ushuaia. Sefydlwyd yr estancia ym 1886 gan y Parchedig Thomas Bridges ac mae wedi ei datgan yn Gofeb Hanesyddol Genedlaethol ym 1999.
 
Mae'r daith yn dechrau gan yrru hyd odre bryniau Monte Olivia, yna yn rhedeg drwy ddyffryn Carbajal, corsydd mawn mwyaf yr ynys, ac yn parhau heibio canolfannau gwyliau gaeaf Altos del Valle, Valle de Los Huskies, lloches Refugio Nunatak, Tierra Maer, Las Cotorras a chyrchfan sgïo Cerro Castor, nes cyrraedd Rancho Hambre. Oddi yno, mae’r daith yn parhau ar hyd dyffryn i Puerto Almanza. Ar y pwynt hwn, gall y tirlun arfordirol godidog o ddyfroedd glas Sianel Beagle, a Puerto Williams (Chile) ar Ynys Navarino ar y lan ddeheuol i’r sianel, ei fwynhau. Mae’r daith yn parhau trwy gymoedd yn llawn o goed ‘baner’, a enwyd felly oherwydd eu siâp a achosir gan wyntoedd cyson o’r gorllewin.
 
Gwarchodir prif dŷ'r estancia ar lannau bae ar Sianel Beagle. Mae wedi cael ei gadw yn ei ffurf wreiddiol ac wedi’i adeiladu o goed a sinc. Mae’r ardd yn cynnwys y rhan fwyaf o'r rhywogaethau fflora brodorol.
 
Tra yn y estancia bydd tywysydd yn disgrifio’r gweithgaredd traddodiadol yr Estancia, ac wedi hynny bydd yn bosib mwynhau te blasus gyda chacennau cartref. Yna bydd y daith yn dychwelyd i Ushuaia.
 
I ben y dudalen

Baner y Wladfa    Y Wladfa :

Baner y Wladfa    Teithiau i'r Wladfa :

Yr Ariannin    Yr Ariannin :

Brasil Tsile-Chile Periw-Peru    De America :

Linciau-Dolenni i'r Wlada, Patagonia    Linciau-Dolenni :

Hafan Y Wladfa Gwladfawyr Heddiw Gwybodaeth Gwesty Mapiau Cysylltu   |   Español English