Arfordir Chubut - Patagonia
Mae arfordir Iwerydd Chubut yn cynnig cilomedrau o ddyfroedd tymherus ac amrywiaeth o dirweddau sy'n asio â chlogwyni mawreddog, tywynnau, heigiau pysgod di-ri gyda phosibiliadau pysgota yn ogystal ag actifeddau hamdden. Mae’r arfordiroedd hyn yn cyflwyno amrywiaeth eithriadol lle mae traethau tywodlyd a lleidiog yn uno â chroniadau o raean, masiffau cwarts a chlogwyni serth.
Yma ar arfordir Chubut mae cerrynt oer, a elwir yn Gerrynt y Malfinas yn cyfarfod â cherrynt cynnes Brasil sy’n cludo rhywogaethau isdrofannol o anifeiliaid i’n harfordir.
Dyma rai o'r teithiau ar hyd arfordir talaith Chubut sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni:
Gwylio Morfilod - Gorynys Valdés - Safle Treftadaeth UNESCO
Taith diwrnod llawn yn ymweld â Gorynys Valdés, safle treftadaeth y Byd UNESCO sydd yn adnabyddus am ei bioamrywiaeth ac am ei morfilod Wright, prif atyniad yr orynys. Mae’r orynys gyferbyn â Porth Madryn dros y Bae Newydd. Byddwch yn cael eich tywys i rannau eraill ar yr orynys, yn bennaf i Caleta Valdés er mwyn gweld anifail ysblennydd arall, yr eliffant môr. Anifeiliaid eraill a welid, o bosib, yw llewod môr, gwanaco, dulog, petris, estrys, llwynogod, fwlturiaid, mara (ysgyfarnog Patagonia) a heidiau o adar o bob lliw.
Nythfa Pengwiniaid Punta Tombo
Punta Tombo yw nythfa pengwiniaid Magellan fwyaf y byd. Mae wedi ei leoli i’r de o Trelew, Dyffryn Camwy ac yn cynnig cyfle unigryw i fod yn rhan o gymdeithas o dros filiwn o bengwiniaid Magellan. Bydd cyfle i gerdded ymysg yr adar bach hoffus hyn, sylwi ar eu gweithgareddau, eu cerddediad doniol a’r modd y maen nhw’n gofalu am eu nythod a magu eu cywion ymysg y llwyni.
Dolffin Commerson - Porthladd Puerto Rawson
Nid oes llawer o lefydd yn y byd lle mae’n bosib gweld y dolffin bach du a gwyn hwn yn ei amgylchedd naturiol. Mae Playa Unión, traeth ger aber Afon Camwy, yn un o’r lleoedd hyn. Mae’r dolffin Commerson yn cadw'n agos at arfordiroedd ac o fewn ychydig o lathenni i’r lan. Gellir eu gweld tra’n hwylio ar gychod cyflym sy’n cael eu gyrru gan bobl broffesiynol sy’n meddu’r cymwysterau angenrheidiol i sicrhau eich bod yn ddiogel tra’n derbyn y profiad bythgofiadwy hwn ac yn mwynhau golygfeydd o arfordir anhygoel Patagonia.