Cwm Hyfryd - Pysgota

Pysgodfeydd Dalgylch Dŵr Parc Cenedlaethol
Los Alerces - Afon Fawr

Gwybodaeth Gyffredinol

Pysgota yn y Wladfa Mae Parc Cenedlaethol Los Alerces yn cynnig un o'r systemau mwyaf o lynnoedd prydferth ym Mhatagonia. Mae’r llynnoedd gwych yma yn gynnwys yn nalgylch dŵr yr Afon Fawr (neu Grande neu Futaleufú). Mae'r Parc yn cynnwys nifer o lynnoedd cyd cysylltiedig, cadwyni o fynyddoedd â rhewlifoedd ar eu copaon, a llystyfiant helaeth. Mae'r dyfroedd pur a thryloyw yn cwblhau amgylchedd o harddwch anhygoel.
 
Mae'r rhywogaethau eog sy'n poblogi'r dyfroedd hyn yn cael eu nodweddu gan eu purdeb genetig a gan eu nodweddion gwyllt gan nad yw'r dŵr wedi cael eu llygru gan gyflwyniadau nag diangfeydd o ffermydd pysgod. Y rhywogaethau sy’n bresennol yn y dalgylch yw'r brithyll seithliw, brithyll brown, brithyll y nant, ac eog Iwerydd. Yn rhan Futaleufú o’r system mae eog Cefnfor Tawel i'w cael. Mae’r pysgota yn y dalgylch hwn yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol oherwydd nifer ac ansawdd y pysgod, a mynediad hawdd atynt. Mae'r tymor pysgota yn ymestyn o 1 Mawrth - 30 Ebrill.
 
Dyma rai o'r afonydd a nentydd pysgota yn Cwm Hyfryd sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni:

Río Rivadavia

Pysgota yn y Wladfa Tirwedd freuddwydiol yn gyforiog o frithyll gwych yw’r modd o ddisgrifio’r afon yma. Río Rivadavia yw dewis cyntaf y pysgotwr yn nalgylch yr Afon Fawr. Yn ystod ei daith fer o ddim ond 7 cilomedr (tua 4 milltir), mae’r afon yn uno llynnoedd Lago Rivadavia a Lago Verde. Mae genau’r afon yn fawr ac yn culhau ac mae’r dŵr yn llifo’n esmwyth iawn. Mae llinellau o goed trwchus ar ei glannau yn cymhlethu ymdrechion i gyrraedd, gan ei gwneud yn ddelfrydol i bysgota o gwch. Mae'n ddelfrydol ar gyfer plu sych, yn enwedig yn ystod deor ac allddod ar adegau’r wawr a’r machlud. O gymer afon Rio Colehual, y brif lednant, mae’r rhedwyr a’r rhedfeydd cyntaf yn ymddangos.
 
Y brithyll seithliw yw’r rhywogaeth amlycaf a bydd wastad yn cuddio ar wely'r afon llawn boncyffion, neu yn y golwg yng nghangau eraill o’r afon a'i hisafonydd. Yn rheolaidd bydd enghreifftiau 60-70cm (26-28 modfedd) o hyd yn cael eu bachu tra bod y cyfartaledd yn 40-55cm (16-22 modfedd). Mae hefyd yn bosibl dod o hyd i eog wedi’u caethiwo mewn pyllau cyfagos yn agos at Lago Rivadavia.

Río Desaguadero

Pysgota yn y Wladfa Mae’r afon fach yna, 25 km (16 milltir) o hyd, yn tarddu o gopaon mynyddoedd Cordon Situación ac yn llifo i mewn i lyn Lago Futalaufquen. Mae afon yn derbyn dŵr o nifer o ffrydiau llai sy'n llifo o'r mynyddoedd hyn ac mae’n hawdd ei gyrraedd.
 
Yn rhannau isaf yr afon mae’r glannau yn llawn goed helyg sy’n cynnig nifer o redegfeydd bychain. Mae ei ddyfroedd yn dryloyw ac mae gwaelod yr afon yn garegog ac yn amddifad o unrhyw lystyfiant. Ar ddechrau'r tymor (Tachwedd a Rhagfyr), gellir dal brithyll yn dod o Lago Futalaufquen mewn nifer sylweddol. O’r Haf ymlaen, brithyll bach llai na 35cm (14 modfedd) sy’n arferol, a cheir physgod mwy yn y rhannau dyfnach ac anoddach i’w cyrraedd o'r afon.

Laguna Larga

Pysgota yn y Wladfa - llun gan Alberto Williams Mae’r llyn wedi cynyddu ei lefel gan ddau fetr ar ôl yr adeiladu o argae bychan, sy'n rhoi egni i bentref Villa Futalaufquen. Am y rheswm hwn mae ei glannau yn llawn o goed ñire a lenga wedi hanner eu boddi, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl bron i rydio. Felly mae rhaid pysgota mewn cychod bach.
 
Mae'r amgylchedd yn addo ychydig o bysgod ond mae’r atyniad o’r brithyll brown enfawr sy'n byw ar y gwely o sialc yn gwneud i fynnu am hyn. Ar gyfartaledd mae’r brithyll yma yn fwy na 55cm (22 modfedd) a gall fod rhai unigolion yn 70cm (28 modfedd) o hyd.

Nant y Fall

Pysgota yn y Wladfa - llun gan Alberto Williams Mae'r ffrwd yn tarddu o lyn Lago Rosario ac yn llifo 15km (9 milltir) nes cyrraedd afon Aber Gyrraints sydd wedyn yn llifo i mewn i'r Afon Fawr. Ei nodwedd amlycaf yw presenoldeb o raeadrau trawiadol hanner ffordd i lawr ei gwrs sy'n dosbarthu ei bysgod.
 
Yn ystod milltiroedd cyntaf mae’r afon yn y ffurfio nant fechan gyda chorneli di-ri a cheunentydd mewn dyffryn wedi’i amgylchynu gan blanhigion bach, ond di-goed ar hyd ei glannau. Mae’r rhan yma o'r afon yn cynnig cyfleoedd da i fachu pysgod ardderchog yn tarddu o Lago Rosario.
 
Mae rhan nesaf cwrs yr afon wedi ei amgylchynu gan lwyni ac mae gwely’r afon yn llawn algâu. Yma mae’r boblogaeth pysgod yn cynyddu yn sylweddol ond nid yw eu maint yn rhagori ar 350gr (12 owns) yn aml. Ond, mae nifer fawr o frithyll seithliw ac “silverside” Patagonaidd yn sicrhau llawer o hwyl gyda nymffau a phlu bach sych.
 
Islaw’r rhaeadrau, mae nifer o redfeydd yn cynyddu ac mae nifer helaeth o'r rhywogaethau nodweddiadol o ddalgylch yr Afon Fawr i’u cael - brithyll seithliw a brithyll brown.

Afon Fawr neu Futaleufu

Pysgota yn y Wladfa - llun gan Alberto Williams Afon sy’n casglu dŵr o ddalgylch eang ac amrywiol yw’r Afon Fawr ac mae'n un o'r dyfroedd gynffon pwysicaf ym Mhatagonia oherwydd ei fod yn agos i argae lle mae'r dŵr afon yn oerach a chyfoethocach o faetholion na'r arferol. Mae'r afon yn fawr ac yn amrywio rhwng 50-120 metr (165-400 troedfedd) o led. Ar ochr yr Ariannin o’r Andes mae'r afon yn llifo am 34km (20 milltir) cyn cyrraedd y ffin â Chile.
 
Mae'r afon yn frith o redfeydd a phyllau ar wely afon o raean mân a chwyn. Mae’r ynysoedd niferus a mân geinciau yn ddarpariaeth ar gyfer pysgota gwych. O ganlyniad i nodweddion yr afon, rhydio neu gychod â moduron sy’n cael eu defnyddio er mwyn cyrraedd y rhannau mwy anghysbell o ddŵr lle mae’r pysgota yn well.
 
Rhywogaethau yn yr afon, yn ôl niferoedd, yw brithyll y nant (fontinalis), seithliw, brown, ac eog Chinook. Mae'r rhan fwyaf o'r brithyll yn mesur rhwng 35-55cm (14-22 modfedd) a phosibiliadau o fachu brithyll brown mwy. Gall eog pwyso mwy na 10kg (22 pwys) hyd yn oed ar ôl y mudo hir ac anodd o’r Môr Tawel sy'n lleihau eu pwysau ac awydd i ddianc yn sylweddol.
 
Oherwydd daearyddiaeth yr afon, gall technegau gwahanol cael eu defnyddio yn amrywio o bysgota syml gyda nymffau a phlu sych i’r profiad nid mor gyffredin o ddal eog enfawr.

Pysgodfeydd eraill nodedig yn yr Ardal

Llyn Willmanco

Pysgota yn y Wladfa Yn y cymoedd o gwmpas Esquel mae yna nifer o lynnoedd bas sy'n doreithiog mewn llystyfiant dyfrol a hoff ddewis y pysgotwr yw llyn Willmanco ar hyn o bryd. Mae’r llyn wedi ei leol mewn ardal breifat gaeedig.
 
Yma, mae'r pysgod yn amrywio rhwng 2-4.5kg (4-10 pwys). Prif nodwedd y lle yw’r posibilrwydd i gastio pysgod a etholir gan bysgota o lan bas y llyn ar ei ffin ddwyreiniol. Mae’r brithyll lliwgar Daneg yn cyrraedd maint mawr. Mae bachiad mawr yn debygol pan stribynnau blasus yn cael eu cyffroi yn agos at waelod y llyn. Bydd cyngor y tywysydd yn cynyddu'r posibilrwydd o fod mewn llun gydag enghraifft dda mewn llaw.

Nant y Pysgod

Pysgota yn y Wladfa Mae'r afon enwog yma yn perthyn i ddalgylch yr Afon Camwy ac yw’r unig gwrs dŵr y dalgylch sy'n cynnig enghreifftiau o frithyll o faint da. Mae'r dirwedd sy'n amgylchynu'r afon ar ei daith o tua 15km (9 milltir) yn baith rhannol sych ac mae ei dyfroedd o fewn eiddo preifat yn gyfan gwbl.
 
Mae’r nant fechan hon o ddŵr tryloyw a thymheredd oer sefydlog yn ei wneud yn gynefin delfrydol ar gyfer salmonidau. Ynghyd â chynhyrchiant ei dyfroedd a’r gofal mae’n ei derbyn, mae hyn yn gwneud yr afon yn un o'r afonydd gyda dwysedd uchaf o frithyll ym Mhatagonia.
 
Y rhywogaeth bron unigryw yma yw’r brithyll seithliw wedi’i nodweddu gan ei chryfder a’i lliw a hyd yn cyrraedd 35-55cm (14-22 modfedd). Mae pysgota yn gymhleth yma ac mae’n amgylchedd delfrydol i brofi'r sgiliau, gan ddefnyddio technegau diddiwedd, ar bysgod gweladwy. Mae’r brithyll yn ddetholiadol iawn oherwydd bod digonedd o fwyd yn y nant.
 
Y technegau mwyaf effeithiol yw’r rhai sy’n defnyddio nymffau bach a phlu gwlyb. Nid yw rhydio nac y defnydd o gychod yn cael ei ganiatáu ar yr afon. Mae’r tymor yma fel arfer yn agor ar 1 Ionawr bob blwyddyn.
 
I ben y dudalen

Baner y Wladfa    Y Wladfa :

Baner y Wladfa    Teithiau i'r Wladfa :

Yr Ariannin    Yr Ariannin :

Brasil Tsile-Chile Periw-Peru    De America :

Linciau-Dolenni i'r Wlada, Patagonia    Linciau-Dolenni :

Hafan Y Wladfa Gwladfawyr Heddiw Gwybodaeth Gwesty Mapiau Cysylltu   |   Español English