Y Gwladfawyr - Cymry Patagonia
1888 Cwm Hyfryd - Harry Jones ac Antonio Miguens
Yng Nghymru yng nghanol y 19
eg ganrif breuddwydiodd y Cymry am Gymru Newydd lle gallent ddatblygu eu bywydau yn rhydd o orthrwm y Sais a lle y gallent fedi buddiannau hunan reolaeth a gweithio tiroedd o’u eiddo eu hunain.
Yn ystod yr adeg yma roedd yr Ariannin hithau yn awyddus i boblogi rhanbarthau gweigion o Batagonia er mwyn cryfhau ei hawliau tiriogaethol. Felly, ymatebodd llywodraeth y weriniaeth yn gadarnhaol pan ddaeth cyfle i wahodd Cymry gweithgar ac ymroddedig i wladychu darn bach o dir, tua 46,000 hectar (114,000 acer) yn Patagonia.
Cwm Hyfryd - Cecil Mac Williams,
Rheolwr Cwmni Masnachol Camwy, Nant y Pysgod
Ym mis Mai 1865, wedi eu hysbrydoli gan freuddwyd Michael D Jones i greu Gwladfa Cymreig, hwyliodd tua 160 o wladfawyr o Lerpwl ar fwrdd y cliper Mimosa. Ar yr 28
ain o Orffennaf 1865, glaniwyd ym Mhenrhyn yr Ogofâu ger lle mae Porth Madryn heddiw. Yn ystod y fordaith wynebodd y teithwyr gryn galedi. Bu nifer o farwolaethau, genedigaethau ac afiechydon. Cynhaliwyd y teithwyr gan y syniad o “Wlad yr Addewid” ond wedi cyrraedd dim ond ddiffeithwch cras a diderfyn paith Patagonia oedd yn eu disgwyl, a hwnnw’n fwy digroeso fyth am ei bod yn ganol gaeaf llym.
Ond, gydag ymroddiad a gwytnwch penderfynol, bwriodd y gwladfawyr at eu gwaith ac yn araf ffynnodd y Wladfa. Gan fod Cristnogaeth ddofn y gwladfawyr yn sicrhau nad oeddynt yn ymddwyn yn rhyfelgar tuag at y Tehuelche, y brodorion lleol, ni fu’n hir cyn iddynt ddatblygu perthynas lle’r oeddynt yn ddibynnol ar ei gilydd. Oedd y Gwladfawyr yn cyfeirio at bobl y Tehuelche fel “Brodyr y Paith”.
1891 Cwm Hyfryd - Chwilwyr aur Capten Richards.
Tu ôl yw Meiric Hughes, Elias Owen, anhysbys1, anhysbys2,
Capten William E. Richards, ac Arthur Philips. O flaen yw
Roberts, John Henry Jones, Philips, a Morris Humphreys.
Wrth i’r Wladfa dyfu a thir amaethyddol addas yn prinhau trodd yr arloeswyr eu golygon tua’r Gorllewin ac yn 1885, mae 30 marchog, a adnabyddir fel y Rifleros (yn cynnwys 20 Cymro), yn dilyn Afon Camwy i’r gorllewin. Ar y 25
ain o Dachwedd, ar ôl teithio 700 cilomedr (435 milltir), mae’r marchogion yn dringo crib uchel y Graig Goch uwchben y fan lle mae Trevelin heddiw, ac yna yn disgyn lawr i ddyffryn niwlog. Y bore dilynol gwelsant o’u blaenau ddyffryn gyda’r hyfrytaf a’r ffrwythlonaf a chopaon eiraog yn gefndir godidog iddo. A’r fintai wedi ei swyno gymaint gan yr olygfa ynganwyd y frawddeg anfarwol, “Wel dyma gwm hyfryd”. A dyma’r Wladfa yn ymestyn 600 cilomedr (375 milltir) yn bellach i’r gorllewin hyd at fynyddoedd yr Andes ac yn ychwanegu 125,000 hectar (310,000 acer) at ei thiroedd.