Periw - Peru
Mae Periw yn wlad sydd â 10 mil mlynedd o hanes ac oedd yn gartref i ymerodraeth yr Inca chwedlonol. Ond yn llawer cynharach nag cyfnod yr Inca, gadawodd gwareiddiadau hynafol eraill holion gwych a gogoneddus i’r byd yn Periw; sef Caral, un o ddinasoedd mwyaf hynafol yn America, ac o bosib, y byd cyfan; beddrodau brenhinol Sipan, y gladdfa haelaf yn America; llinellau enigmatig Nasca; a chaer anhygoel Kuelap.
Mae Periw hefyd yn un o'r gwledydd mwyaf bio amrywiol ar y ddaear. Gwlad lle y gallwch symud o ardal o anialwch mynyddig poeth i jyngl gwyrddlas mewn anadl. Mae'r wlad yn enfys o synau, blasau, a lliwiau sy'n amlygu eu hunain mewn mwy na 50 o ieithoedd brodorol, miloedd o ddawnsfeydd hynafol, ac offerynnau cerddorol a ddefnyddir mewn gwyliau pwysig a gorymdeithiau.
Drwy ein partneriaid arbenigol teithio o Beriw, rydym yn gallu cynnig y teithiau mwyaf anhygoel i wlad arall hynod yn Ne America. Isod mae disgrifiad o'r cyrchfannau a’r pleser deithiau sy’n bosib eu cynnwys mewn teithlen personol i Periw.
Dyma rai o'r teithiau yn Santiago, Chile, sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni:
Cuzco a Llyn Titicaca
Ymwelwch ag adfeilion Machu Picchu, ddinas sanctaidd yr Inca a safleoedd Inca eraill ar hyd dyffryn cysegredig yr Inca, Valle de los Incas (Urubamba). Cymerwch y trên o Cuzco i Puno ac adnabod llyn Titicaca, llyn mordwyol uchaf y byd.
Mannau eraill o ddiddordeb ar y daith hon yw Aguas Calientes, y dref agosaf at Machu Picchu; ac adfeilion Sillustani, claddfa cyn-Inca ar lan Llyn Umayo ger Puno.
O’r Andes i’r Amazon
Arhoswch mewn llety mewn coedwig law trofannol yn ganol jyngl Amazon yn Periw a hafan bywyd gwyllt llyn Sandoval mewn canŵ. Mae'r daith yn cynnwys cyrchfannau angenrheidiol fel Machu Picchu a Llyn Titicaca.
Mannau eraill o ddiddordeb ar y daith hon yw Aguas Calientes, y dref agosaf at Machu Picchu; Puerto Maldonado, dinas yn goedwig yr Amazon ger y ffin â Bolifia; ac adfeilion Sillustani, claddfa cyn-Inca ar lan Llyn Umayo ger Puno.
De Periw - Machu Picchu
Dewch i ddarganfod y gwir uchafbwyntiau De Periw. Ymwelwch â Arequipa, ceunant syfrdanol Colca, Cuzco, hyfrydwch dyffryn cysegredig yr Inca (Urubamba) a Machu Picchu. Yna teithiwch ar y trên i Puno a llyn Titicaca, profwch daith cwch cyffrous o amgylch warchodfa bywyd gwyllt ynysoedd Ballestas a hedfan dros y llinellau dirgel Nazca.
Mannau eraill o ddiddordeb ar y daith hon yw Ollantaytambo, tref a safle archeolegol Inca ger Cusco; Aguas Calientes, y dref agosaf at Machu Picchu; ynysoedd Amanatani a Taquile ar lyn Titicaca; adfeilion Sillustani, claddfa cyn-Inca ar lan Llyn Umayo ger Puno; a Pisco, dinas a leolir yn rhanbarth Ica yn ne Periw.
Yn y gwinllannoedd bydd datblygiad y gwinwydd, y diwylliant, technoleg a’r rheolaeth sy'n gyfrifol am winoedd o’r dosbarth cyntaf yn cael eu harddangos. Yn olaf, byddwch yn ymweld â siop win lle gallwch brynu amrywiaeth eang o winoedd a chofroddion y dydd.
Llwybro Gogledd Periw
Ymwelwch â'r casgliad trawiadol o arteffactau yn amgueddfa Arglwydd Sipan cyn teithio ymlaen i ddinas draddodiadol Cajamarca yn yr Andes, a welodd dyddiau diwethaf Atahuallpa Inca a diwedd yr ymerodraeth Inca. Bydd y daith anturus yma yn mynd a chi i gaer anghysbell Kuelap.
Mannau eraill o ddiddordeb ar y daith hon yw Trujillo, prifddinas rhanbarth La Libertad a drydedd ddinas fwyaf yn Periw; Chan Chan, ddinas a safle archeolegol mwyaf cyn-Columbus yn Ne America; Chiclayo, prifddinas rhanbarth Lambayeque yng ngogledd Periw; pyramidiau Tucume; Cajamarca a Celendin, a leolir yn ucheldiroedd gogledd Periw; a Tingo ger caer Kuelap.
Perfeddwlad yr Inca
Taith drwy'r berfeddwlad yr Inca i Arequipa a cheunant Colca cyn parhau i Puno a Llyn Titicaca. Ymwelwch hefyd â safleoedd o amgylch Cuzco gan gynnwys Machu Picchu yn ogystal â mentro i mewn i goedwig law yr Amazon ac aros mewn llety yn ganol y jyngl.
Mannau eraill o ddiddordeb ar y daith hon yw ynysoedd Amantani a Taquile ar lyn Titicaca; dyffryn cysegredig yr Inca (Urubamba); Ollantaytambo, tref a safle archeolegol Inca ger Cusco; Aguas Calientes, tref agosaf at Machu Picchu; Puerto Maldonado, dinas yn goedwig yr Amazon ger y ffin â Bolifia; llyn Sandoval sy’n agos i ddinas Puerto Maldonado; a Lima.
Cyfrinachau Cudd Periw
Teithiwch drwy perfeddlwad yr Inca a ddarganfod Periw yr Incas. Bydd y daith hon yn mynd â chi i rai o safleoedd mwyaf diddorol Periw yn gogledd eithaf anadnabyddus y wlad, gan gynnwys amgueddfa o Sipan Arglwydd, pyramidiau Tucume, a dinas traddodiadol Cajamarca yn yr Andes. Safleoedd bydd rhaid ymweld â nhw yn y De yw Arequipa, ceunant Colca, safleoedd Inca o amgylch Cuzco gan gynnwys Machu Picchu, ac nid oes unrhyw ymweliad yn gyflawn heb hwylio ar Lyn Titicaca.
Mannau eraill o ddiddordeb ar y daith hon yw Chiclayo, ddinas yng ngogledd Periw ger arfordir y Môr Tawel; Cajamarca yn ucheldiroedd y gogledd: y prif ddinas Lima; Arequipa, ail ddinas fwyaf Periw; dyffryn cysegredig yr Inca (Urubamba); Ollantaytambo, tref a safle archeolegol Inca yn ne Periw; Aguas Calientes, tref agosaf at Machu Picchu; ynysoedd Taquile a Amantani ar lyn Titicaca; a Puno gerllaw.