Teithiau i'r Wladfa - Patagonia
Awgrymwn y rhaglenni dilynol ar gyfer teithio i'r Wladfa - Patagonia
Taith Hanes a Diwylliant i'r Wladfa - Patagonia
Taith Hanes a Diwylliant i’r Wladfa, Patagonia, sy'n cynnwys Buenos Aires, Porth Madryn, Dyffryn Camwy, y Paith a Cwm Hyfryd. Gwelwch forfilod Gorynys Valdés, pengwiniaid Punta Tombo, hwyliwch ar lynnoedd Parc Cenedlaethol Los Alerces yn yr Andes a theithiwch ar drên bach La Trochita.»» Cliciwch yma neu ar y llun o Gapel Bethel am fanylion
Taith Byd Natur i'r Wladfa - Patagonia
Taith Byd Natur a Bywyd Gwyllt i’r Wladfa, Patagonia sy’n cynnwys Buenos Aires, Porth Madryn, Dyffryn Camwy, y Paith a Cwm Hyfryd yn yr Andes. Gwelwch forfilod Gorynys Valdés, a pengwiniaid Punta Tombo. Teithio drwy, a threulio noson, ar y Paith. Teithio ar drên bach La Trochita, hwylio ar lynnoedd Parc Cenedlaethol Los Alerces, a thaith 4x4 yn dilyn Llwybr y Rifleros drwy Pentre Sydyn. Ymweld â Gwarchodfa Natur Nant y Fall, Gwarchodfa Natur Llyn Bagillt a Melin Nant Fach yn Cwm Hyfryd.»» Cliciwch yma neu ar y llun o Gwm Hyfryd am fanylion