Hanes Diweddar y Wladfa
Yr Ugeinfed Ganrif
Er i Gymry fynd i'r Wladfa i gadw eu hiaith a'u traddodiadau, daeth Sbaeneg i fod yn iaith swyddogol ym 1880 ac yn ystod yr ugeinfed ganrif oedd nifer y bobl yn siarad Cymraeg yn lleihau.
Gauchos Gorsedd y Beirdd, Gaiman
Y diweddar Benito Owen ac Andrés Evans
Erbyn canol yr ugeinfed ganrif roedd mewnlifiad o Gymru bron wedi peidio, a mudodd pobloedd o wahanol gefndiroedd diwylliannol o rannau eraill o'r Ariannin i'r dalaith. Peidiodd ymfudo o Gymru yn gyfan gwbl pan ddechreuodd y rhyfel byd cyntaf. Prin oedd cysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa oherwydd y ddwy ryfel byd a dirwasgiad blynyddoedd Peron lle gwell oedd cadw’n dawel am dreftadaeth dieithr. Roedd y gymuned Gymreig erbyn hyn yn y lleiafrif ac wedi i’r cenedlaethau cyntaf o wladfawyr diflannu gwanhawyd y teimlad o berthynas rhwng Cymru a Phatagonia. Roedd lleihad yng nghynnyrch diwylliannol Cymraeg y Wladfa a phrin oedd yr Eisteddfodau yn cael ei gynnal yn yr adeg yma.
Geraldine Mac Burney,
Ennillydd Eisteddfod y Pobl Ifanc, Gaiman 2009
Ond mae cysylltiadau rhwng y Patagonia a Chymru yn cryfhau ers y 1960au. Y flwyddyn 1965 oedd canmlwyddiant y Wladfa. Roedd hyn, nid yn unig yn adeg i’r Gwladfawyr ymfalchïo yn y bennod eithriadol hon yn eu hanes, ond hefyd yn ddechreuad yr adfywiad yn eu hunaniaeth Gymreig.
Ym 1997 dechreuwyd cynllun gan y Swyddfa Gymreig i ddysgu Cymraeg yn y Wladfa, dan nawdd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i anfon athrawon o Gymru i arwain timau lleol i ddysgu'r iaith Gymraeg yn y gwahanol ardaloedd, mewn ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd a dosbarthiadau nos i oedolion.
Macsen Jones a Diane Green, dathliadau 25 Tachwedd
Mae nifer o sefydliadau fel Cymdeithas Cymru-Ariannin, Menter Patagonia, Coleg Llanymddyfri, prifysgolion Llanbedr Pont Steffan a Chaerdydd yn cymryd rhan mewn prosiectau i hyrwyddo'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Ariannin, ac i adfywio'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia.
Yn 2001 yr ail sefydlwyd Gorsedd y Wladfa gyda'r diweddar Clydwyn ap Aeron Jones yn Llywydd. Fe'i dilynwyd ef gan ei frawd, Dewi Mefin Jones, a gan Geraint Edmunds yn 2008.
Y Wladfa Heddiw
Seremoni Gorsedd Beirdd y Wladfa, Gaiman 2008
Mae treftadaeth y Gwladfawyr yn weladwy drwy’r dalaith cyfan hyd yn oed yn ganol y paith. Mae enwau ac arwyddion Cymraeg yw gweld yn y stryd ar flaen y siopau; ceir Siop Bara yn Gaiman, bwyty Bendigedig yn Nhrerawson, Tŷ Te Nain Maggie yn Nhrevelin, gwesty Yr Hen Ffordd, siop Siocled, a siop teisennau Blasus yn Gaiman.
Morgan Jones - Eisteddfod Bro Hydref, Trevelin
Mae diwylliant a thraddodiadau Cymru yn fyw yn y Wladfa. Mae nifer Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mhorth Madryn, Dyffryn Camwy ac yn Gwm Hyfryd yn yr Andes. Mae nifer o gorau Cymraeg a grwpiau dawnsio gwerin yn Ddyffryn Camwy a Chwm Hyfryd yn cystadlu yn ym mhob Eisteddfod. Gwyliau eraill o nod yw Gŵyl y Glaniad a Gŵyl 25 o Dachwedd yn Nhrevelin. Mae Gŵyl Dewi Sant hefyd yn derbyn sylw mewn rhai ardaloedd, yn bennaf yn Nhrelew.
Gwyliau Pwysig y Wladfa
Mawrth 1: Dydd Gŵyl Dewi - TrelewEbrill (penwythnos cyntaf ): Ffair Amaethyddol Dyffryn Camwy - Gaiman
Ebrill 30: Diwrnod y Bleidlais Gwlad - Pentre Sydyn a Trevelin. Dathlu penderfyniad Gwladfawyr Cwm Hyfryd i fod yn rhan o’r Ariannin yn hytrach na Chile yn 1902.
Mai (penwythnos cyntaf): Eisteddfod Bro Hydref (Cadeiriol) – Trevelin.
Gorffennaf 28: Gŵyl y Glaniad - Porth Madryn a gweddill y Wladfa. Dathlu'r diwrnod glaniodd y Gwladfawyr oddi ar y llong Mimosa yn 1865.
Awst (penwythnos cyntaf): Eisteddfod Mimosa - Porth Madryn.
Medi (ail benwythnos): Eisteddfod y Bobl Ifanc (hyd 25 oed) - Gaiman
Hydref (diwedd): Eisteddfod y Wladfa (Cadeiriol a Coronog) - Trelew
Tachwedd 25: Gŵyl Tachwedd 25 – Trevelin, Cwm Hyfryd. Dathlu darganfyddiad Cwm Hyfryd gan y “Rifleros” Cymreig (y Gwladfawyr a darganfuwyd y Cwm yn 1885)