Y Paith - Patagonia
Crwydro’r Paith
Rhaid croesi’r paith os ydych am ymweld â’r Wladfa gan fod Dyffryn Camwy ar arfordir yr Iwerydd yn y dwyrain a Chwm Hyfryd yng nghesail yr Andes yn y gorllewin gyda 600 cilomedr (375 milltir) rhwng y ddau lle.
Mae crwydro’r paith, fel arfer, yn uchafbwynt ac yn gyfle i ryfeddu at olygfeydd anghredadwy o drawiadol, mewn awyrgylch o lonyddwch a thawelwch tra’n syllu ar y gorwelion anfeidrol. Mae’r paith yn gyforiog o hanes; yn hanesion ac enwau lleoedd yr hen gwladfawyr a fu’n anturio ac yn arloesi yma. Teimlwch y wefr o ddod o hyd, o bosib, i rigol un o’r hen wagenni, neu ddarn o wydr lliwgar trwchus neu hen gwpan, neu ddarnau rhydlyd o hen ffrwyn neu bedol.
Er ei bod yn bosib croesi’r paith mewn bws nid yw hynny’n rhoi cyfle i aros ac oedi yn unman wrth i’r bws wibio heibio pob dim o ddiddordeb hanesyddol. Mae’n bosib hefyd croesi’r paith mewn car wedi ei logi ond ni fydd y dirwedd ei hun yn dweud y cyfan am orchestion ac anturiaethau’r hen gwladfawyr.
Mae’n bosib croesi’r paith o un ochr i’r llall mewn cyn lleied â chwe awr a dyw taith felly fawr gwell na gwylio’r tirwedd yn gwibio heibio ar sgrîn teledu. Y ffordd orau heb os yw yng nghwmni rhywun sy’n gyfarwydd a’r llecynnau diddorol ac sy’n gyfarwydd â hanes a straeon yr hen gwladfawyr a fu’n creu’r llwybrau. Gall crwydro’r paith fod yn daith drwy’r dydd neu hyd yn oed taith sawl diwrnod gan ddibynnu ar eich awydd i grwydro a dwysáu eich gwybodaeth o hanes y Wladfa.
Crwydro’r paith gyda ni yw’r allwedd sy’n datgloi cyfrinachau hanesyddol, arwrol, yr hen gwladfawyr mewn lle a oedd mor estron ac mor ddieithr iddynt. Wrth grwydro byddwch yn ail fyw eu teimladau wrth ddilyn eu holion a sefyll yn yr un mannau a syllu ar yr un tirweddau anghyfnewidiol. Dim ond drwy grwydro’r paith y byddwch yn cael eich gwobrwyo â thrysorau’r Wladfa.
Mae hwn yn gyfle i gerdded drwy hanes wrth adnabod neu glywed hanesion Gwastad Mawddwy, Bannau Beiddio, Clafdy, Hirdaith Edwin, Dyffryn y Merthyron, John Daniel Evans, Dôl yr Ymlid, Dôl y Plu, Bedd Jack Lewis, Hafn y Glo, Rocky Trip, Dyffryn yr Allorau, Hanner Lleuad, Llygad Du, Rhyd yr Indiaid, Bocs Gin, Pant Ffwdan, Pant y Gwaed, Bwlch y Gwynt, Dyffryn Teca, Tafarn Fedw, Nant y Cwtsh, Hafn John Henry Jones, Nant y Pysgod, Llwyd ap Iwan, Mynydd Llwyd a Bwlch Esquel.
Oes diddordeb i grwydro?
Piedra Parada - Afon Camwy
Mae Piedra Parada wedi ei leoli yng nghanol dyffryn Afon Camwy tua 150 cilomedr (95 milltir) o Esquel, Cwm Hyfryd. Twr o garreg dros 300 medr (1,000 troedfedd) o uchder yn sefyll yn unig yng nghanol dyffryn Afon Camwy yw Piedra Parada a oedd unwaith yn simnai folcanig gynhanes. Mae’r lleoliad yn unigryw o ran prydferthwch a chyfoeth daearegol. O ddiddordeb hanesyddol, mae Piedra Parada yn un o’r lleoedd lle gwersyllodd y Rifleros Cymreig yn ystod eu taith tua’r gorllewin yn 1885 pan ddarganfuwyd Cwm Hyfryd ganddynt.
Yn y werddon bellennig hon byddwch yn gallu rhannu asado nodweddiadol gyda phobl leol ar eu estancia ac yna cael eich tywys am dro drwy hafn Cañadon de la Buitrera sydd ag ochrau o dros 300 medr o uchder (1,000 troedfedd).
Mae’n bosib ychwanegu gweithgareddau eraill at y bleserdaith er mwyn manteisio’n llawn ar eich ymweliad â’r lle unigryw hwn. Ymysg y posibiliadau mae arnofio yn hamddenol gyda llif meddal Afon Camwy hyd at waelod ŷ Piedra Parada, teithiau cerdded yn canolbwyntio ar ddaeareg gyda daearegwr arbenigol, abseilio â rhaffau yn Cañadon de la Buitrera, neu aros noson a threulio dau ddiwrnod mewn cychod yn arnofio Afon Camwy.
Taith 4x4 - Llwybr y Rifleros
Yn 1885, mae 30 marchog, a adnabyddir fel y Rifleros, ac a oedd yn cynnwys 20 Cymro, yn dilyn Afon Camwy i’r gorllewin. Ar ôl teithio 700 cilomedr (435 milltir), mae’r marchogion yn dringo crib uchel y Graig Goch uwchben y fan lle mae Trevelin heddiw. Swynwyd y fintai gymaint gan yr olygfa, ynganwyd y frawddeg anfarwol, “Wel dyma gwm hyfryd”.
Mae’r daith 4x4 hanner diwrnod hwn yn gyfle i olrhain y rhan ddiwethaf o lwybr y Rifleros gan gychwyn o Gwm Hyfryd ac yna heibio Mynydd Llwyd, Nant y Pysgod, Hafn John Henry Jones, Dyffryn Teca, Nant y Cwtsh, Llyn Cronometer, Pigyn Thomas, Aber Gyrraints, Pentre Sydyn ac yna yn ôl i dref Trevelin, Bro Hydref.
Ar y daith fythgofiadwy hon gwelwch olygfeydd godidog a sefyll ar fan uchel sydd yn gwahanu dyfroedd sy’n unai’n llifo i’r Iwerydd neu’r Tawelfor, ac fe welwch fywyd gwyllt y paith gan gynnwys Condor neu ddau o bosib, Maen Holditch ac Ysgol Pentre Sydyn.
Taith 4x4 - Llwybr y Merthyron
Yn 1883, mae John Daniel Evans, Richard Davies, John Hughes a John Parry yn fforio ymhellach tuag yr Andes yn y gorllewin nag unrhyw gwladfawyr eraill tra yn chwilio am aur. Eu llwybr oedd Afon Camwy ac wrth ei dilyn nes gyrraedd Afon Eira dyma nhw yn taro ar draws brodorion Mapuche. Nid oedd y gwladfawyr wedi dod i ddealltwriaeth gyda’r Mapuche fel ag yr oeddent gyda’r Tehuelche ac mewn pryder dyma’r Cymry yn troi yn ôl am y Dyffryn. Dipyn pellach i lawr Afon Camwy mae John Daniel Evans yn dianc rhag ymosodiad y Mapuche (nid felly y 3 merthyr) ac yn byw i arwain y Rifleros ddwy flynedd yn ddiweddarach yn ôl tuag at yr Andes.
Mae’r daith 4x4 hon yn gyfle i olrhain y rhan ganol o lwybr y Rifleros a hanes John Daniel Evans a’r merthyron a hynny mewn cylchdaith sy’n cychwyn yng Nghwm Hyfryd ac yna heibio Mynydd Llwyd, Nant y Pysgod, Afon Eira, Afon Camwy, Piedra Parada, y Llaw, Hafn yr Aur, Craig yr Eryr, Paso Berwyn a Rhyd yr Indiaid, ac yna ar hyd y ffordd fawr drwy Bocs Gin, Pant Ffwdan, Bwlch y Gwynt, Dyffryn Teca, Tafarn Fedw, Nant y Cwtsh, Hafn John Henry Jones a thrwy Fwlch Esquel yn ôl i Gwm Hyfryd.