Y Wladfa - Patagonia
1908 Hafn y Glo, y Paith - Teuluoedd Thomas Morgan
a Rhys Thomas ar eu ffordd i Ddyffryn Camwy
Mae gan Patagonia dri rhanbarth pendant: mynyddoedd yr Andes, y Paith sydd yn cynnwys llwyfandiroedd y canolbarth ac yna arfordir yr Iwerydd. Mae’n bosib disgrifio ei daearyddiaeth fel grisiau anferthol gyda mynyddoedd yr Andes fel y gris uchaf, ac yna yn disgyn trwy lwyfandir o derasau nes cyrraedd yr Iwerydd. Mae Patagonia gyda dwysedd poblogaeth ymysg yr isaf yn y byd gyda llai nag 1 preswyliwr i bob cilomedr sgwâr mewn rhai llefydd.
1910 Gaiman, Dyffryn Camwy - Teulu George Hammond ar
fferm Hugh S. Pugh cyn iddynt gychwyn eu taith dros y paith
i Gwm Hyfryd yn yr Andes
Mae Parc Cenedlaethol Los Alerces ger Trevelin, yn un o rai mwyaf yn y wlad yn 263,000 hectar o faint (650,000 acer - sydd tua’r un faint â Gwynedd yng Nghymru). Nodweddion amlycaf y parc yw ei goedwigoedd Alerce, dim ond ychydig o ôl llaw dyn, golygfeydd anhygoel, llynnoedd, afonydd a rhaeadrau niferus o bob maint wedi eu hamgylchynu â mynyddoedd wedi eu gorchuddio â choedwigoedd. Cypreswydden Batagonaidd yw’r goeden Alerce, rhai ohonyn nhw yn agos i 3,000 o flynyddoedd oed a thros 70 metr (230 troedfedd) o uchder.
1908 Gaiman, Dyffryn Camwy - Teuluoedd Richard Roberts
a Bernardo Mulhall ar fferm Mulhall
1910 - Canol y Paith
Atyniad hanesyddol a diwylliannol yw y Wladfa Gymreig sydd yn cynnwys Cwm Hyfryd (Esquel a Trevelin), Dyffryn Camwy (Trerawson, Trelew, Gaiman a Dolavon) a Porth Madryn oddi fewn ei ffiniau. Yma y dewch o hyd i’r Gwladfawyr a’u diwylliant sydd wedi goroesi dros 140 mlynedd ers i’r fintai gyntaf lanio oddi ar y cliper, Mimosa, ym 1865 ym Mhenrhyn yr Ogofâu yn ymyl lle mae Porth Madryn heddiw.