Andes Celtig
Cwmni Teithio yn y Wladfa, Patagonia

celtig andes teithiau yn y wladfa patagonia

Cwmni teithio o Trevelin, Cwm Hyfryd, y Wladfa Patagonia yw Andes Celtig.

Isaac Jones Ai' Go' Bach - Gaucho Cymreig, Tair Helygen, y Wladfa Patagonia,1900

Arbenigaeth Andes Celtig yw trefnu teithiau i’r Wladfa Gymreig ond rydym yn darparu teithiau hefyd i weddill Patagonia, yr Ariannin a De America.
 
Mae ein profiad mewn teithio a thwristiaeth yn y Wladfa a gweddill Patagonia yn ymestyn o 1998 ac mae ein tîm yn cynnwys disgynyddion y gwladfawyr gwreiddiol a siaradwyr rhugl eu Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg.
 
Breuddwyd llawer o bobl yw ymweld â Gwladfa Patagonia a crwydro’r Paith, a’n dymuniad ninnau yw rhannu ein gwybodaeth eang am hanes a diwylliant y Wladfa yn drwyadl ac yn gyfrifol. Yn ogystal, dymunwn rannu ein gwybodaeth am fywyd gwyllt a daearyddiaeth y rhanbarth â’n ymwelwyr.
 
Mae Patagonia yn drysorfa o fywyd gwyllt a harddwch naturiol anghredadwy a phobl hynod sydd wedi creu Patagonia yn lle mor unigryw. Ein bwriad yw rhannu’r trysorau hyn gyda chi a sicrhau bod eich ymweliad â Patagonia yn brofiad bythgofiadwy.
 
Rydym ni yn y Wladfa yn Chubut, Patagonia, yn croesawu teithwyr yn wresog i’n gwlad.

teithiau i patagonia y wladfa gan celtig andes
  Español    English
hafan
Cefndir cwmni teithio Andes Celtig, Trevelin, Cwm Hyfryd, y Wladfa, Patagonia
y wladfa
disgrifiad o atyniadau y Wladfa - Patagonia
gwladfawyr
Hanes yr hen wladfawyr yn Gwladfa Patagonia
ariannin
gwybodaeth cyffredinol am yr Ariannin - Argentina
» teithiau
Disgirifiad o'r pleserdeithiau neu teithiau sy'n bosib eu gwneud gyda Andes Celtig
» teithlenni
Disgirifiad o'r pleserdeithiau neu teithiau sy'n bosib eu gwneud gyda Andes Celtig
mapiau
Mapiau o'r Wladfa Patagonia i ddiddordeb i deithwyr Andes Celtig
linciau
Linciau i tudalennau gwe o ddiddordeb i deithwyr Andes Celtig
cysylltu â ni
E bost er mwyn cysylltu gyda Andes Celtig