Taith Byd Natur i'r Wladfa - Patagonia
| Crynodeb - Taith Byd Natur i'r Wladfa, Patagonia | |
|---|---|
| Disgrifiad: | Taith Byd Natur a Bywyd Gwyllt i’r Wladfa, Patagonia sy’n cynnwys Buenos Aires, Porth Madryn, Dyffryn Camwy, y Paith a Cwm Hyfryd yn yr Andes. Gwelwch forfilod Gorynys Valdés, a pengwiniaid Punta Tombo. Teithio drwy, a threulio noson, ar y Paith. Teithio ar drên bach La Trochita, hwylio ar lynnoedd Parc Cenedlaethol Los Alerces, a thaith 4x4 yn dilyn Llwybr y Rifleros drwy Pentre Sydyn. Ymweld â Gwarchodfa Natur Nant y Fall, Gwarchodfa Natur Llyn Bagillt a Melin Nant Fach yn Cwm Hyfryd. |
| Lleoliadau: | Buenos Aires - 2 noson, Porth Madryn - 2 noson, Gaiman - 2 noson, Paith - 1 noson, Trevelin - 5 noson, Buenos Aires - 1 noson |
| Hyd: | 14 diwrnod / 13 noson (yn yr Ariannin) |
| Diwrnod | Lleoliad | Rhaglen yn Fras |
|---|---|---|
| 1 | Buenos Aires: | Cyrraedd, taith dinas Buenos Aires a Sioe Tango. |
| 2 | Buenos Aires: | Diwrnod ar estancia traddodiadol yn y Pampas. |
| 3 |
Buenos Aires/ Porth Madryn: |
Hedfan i Trelew, teithio i Porth Madryn ac ymweld â Amgueddfa’r Glaniad. |
| 4 | Porth Madryn: | Gwylio morfilod, Safle Treftadaeth Gorynys Valdés. |
| 5 |
Porth Madryn/ Gaiman: |
Amser rhydd yn Porth Madryn. Nythfa Pengwiniaid Punta Tombo a theithio i Gaiman. |
| 6 | Gaiman: | Amser rhydd yn Gaiman. Dyffryn yr Afon Camwy, Capel Moriah, Parc Palaeontoleg Bryn Gwyn. |
| 7 |
Gaiman/ Paith: |
Taith dros y Paith yn dilyn Llwybr y Merthyron drwy Piedra Parada hyd at pentref Gualjaina. |
| 8 |
Paith/ Trevelin: |
Ymlaen dros y Paith a chyrraedd Trevelin, Cwm Hyfryd, yn yr Andes. |
| 9 | Trevelin: | Amser rhydd yn Trevelin. Gwarchodfa Natur Nant y Fall ac amgueddfa Melin Nant Fach. |
| 10 | Trevelin: | Trên bach “La Trochita” (Old Patagonian Express), Llwybr y Rifleros ac amgueddfa hanes Pentre Sydyn. |
| 11 | Trevelin: | Parc Cenedlaethol Los Alerces a Saffari Dŵr. |
| 12 | Trevelin: | Gwarchodfa Natur Llyn Bagillt. |
| 13 |
Trevelin/ Buenos Aires: |
Taith i Bariloche drwy’r Andes, Amgueddfa Frodorol Leleque ac El Bolsón. Hedfan i Buenos Aires. |
| 14 | Buenos Aires: | Gadael. |
Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.

