Y Wladfa - Patagonia

celt andes teithiau yn y wladfa patagonia

Mae Patagonia yn lle rhyfeddol sy’n cynnig nifer o brofiadau i deithwyr gan gynnwys gweithgarwch antur, atyniadau naturiol, hanes a diwylliant brodorol - ac wrth gwrs, y Wladfa Gymreig. Oedd y gydfodolaeth heddychol rhwng brodorion y Tehuelche a’r Gwladfawyr Cymreig in ddigwyddiad anghyffredin os nad yn unigryw yn hanes gwladychu cyfandiroedd America.

Mary Hannah a Lisa Williams, Trelew, Dyffryn Camwy, y Wladfa 1900

Mae gan Patagonia dri rhanbarth pendant: mynyddoedd yr Andes, y Paith sydd yn cynnwys llwyfandiroedd y canolbarth ac yna arfordir yr Iwerydd. Mae’n bosib disgrifio ei daearyddiaeth fel grisiau anferthol gyda mynyddoedd yr Andes fel y gris uchaf, ac yna yn disgyn trwy lwyfandir o derasau nes cyrraedd yr Iwerydd. Mae Patagonia gyda dwysedd poblogaeth ymysg yr isaf yn y byd gyda llai nag 1 preswyliwr i bob cilomedr sgwâr mewn rhai llefydd.
 
Mae’n lle digon mawr i gynnig cyfoeth o fywyd gwyllt naturiol ac i’r rhai sydd am adnabod amrywiaeth ysblennydd o anifeiliaid mae Patagonia yn lleoliad godidog. Mae’r rhanbarth yn cynnwys 11 o’r 23 Parc Cenedlaethol a thri o’r 10 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn yr Ariannin ac mae pob parc cenedlaethol a safle treftadaeth yn unigryw yn eu hamrywiaeth o fywyd gwyllt, fflora a ffawna.
 
Mae Parc Cenedlaethol Los Alerces ger Trevelin, yn un o rai mwyaf yn y wlad yn 263,000 hectar o faint (650,000 acer - sydd tua’r un faint â Gwynedd yng Nghymru). Nodweddion amlycaf y parc yw ei goedwigoedd Alerce, dim ond ychydig o ôl llaw dyn, golygfeydd anhygoel, llynnoedd, afonydd a rhaeadrau niferus o bob maint wedi eu hamgylchynu â mynyddoedd wedi eu gorchuddio â choedwigoedd. Cypreswydden Batagonaidd yw’r goeden Alerce, rhai ohonyn nhw yn agos i 3,000 o flynyddoedd oed a thros 70 metr (230 troedfedd) o uchder.
 
Mae Gorynys Valdés, yn ymyl Porth Madryn, yn un o safleoedd treftadaeth y Byd, UNESCO ac yn safle pwysig ei fioamrywiaeth ac yn adnabyddus oherwydd ymweliadau morfilod Wright â’r arfordiroedd.
 
Mae rhewlif Perito Moreno yn cael ei ystyried yn wythfed rhyfeddod y byd. Mae’r swmp enfawr o rew diben wedi ei amgylchynu â choedwigoedd a mynyddoedd yn brofiad ysblennydd i ryfeddu ato. Mae rhewlif Perito Moreno a Gorynys Valdés ymhlith yr atyniadau sy’n denu’r nifer fwyaf o deithwyr rhyngwladol i’r Ariannin.
 
teithiau i patagonia y wladfa gan celtig andes

  Español    English
hafan
Cefndir cwmni teithio Andes Celtig, Trevelin, Cwm Hyfryd, y Wladfa, Patagonia
y wladfa
disgrifiad o atyniadau y Wladfa - Patagonia
gwladfawyr
Hanes yr hen wladfawyr yn Gwladfa Patagonia
ariannin
gwybodaeth cyffredinol am yr Ariannin - Argentina
» teithiau
Disgirifiad o'r pleserdeithiau neu teithiau sy'n bosib eu gwneud gyda Andes Celtig
» teithlenni
Disgirifiad o'r pleserdeithiau neu teithiau sy'n bosib eu gwneud gyda Andes Celtig
mapiau
Mapiau o'r Wladfa Patagonia i ddiddordeb i deithwyr Andes Celtig
linciau
Linciau i tudalennau gwe o ddiddordeb i deithwyr Andes Celtig
cysylltu â ni
E bost er mwyn cysylltu gyda Andes Celtig