Yr Ariannin - Mendoza

Dinas Mendoza ydy 'r bwysicaf yn rhanbarth Cuyo o’r Ariannin ac mae hefyd brifddinas i'r dalaith o’r un enwa. Yn adnabyddus am fynydd Aconcagua, gwinoedd Malbec, ac am fod yn grud i weithredoedd arwraidd y rhyddhäwr Cadfridog San Martín, tad y genedl Archentaidd, mae’n un o’r dinasoedd brydfertha yn y wlad hon. Ariannin - Mendoza Wedi'i leoli yng nghesail is fynyddoedd yr Andes, lleolir y ddinas mewn gwerddon anghredadwy wedi eu cloddio gan yr arloeswyr cynnar a diolch i afonydd Mendoza a Tunuyán, sydd wedi cael eu sianelu’n ddoeth i system dyfrio anferth sy’n rhoi bywyd i bob dim a welir.
 
Mae’r hinsawdd yn Mendoza yn gymedrol dymherus, er bod y mynyddodd cyfagos yn achosi sychder i raddau. Mae tymereddau'r haf yn amrywio rhwng 18-33ºC: mae’r diwrnodau yn boeth a’r nosweithiau yn oer. Yn y gaeaf, y tymor sgïo, isafbwynt tymheredd yw tua 3ºC ac yr uchafbwynt yn 16ºC.
 
Y llwybr gwin yw’r atyniad fwyaf traddodiadol yn Mendoza. Mae’n bosib ymweld â nifer o windai wrth brofi gwinoedd wedi eu cynhyrchu yn y gwinllannoedd lleol sydd wedi gwneud y rhanbarth yn fyd enwog am winoedd.
 
Mae’r arwyddair lleol “tir yr heulwen dda a gwin da” yn ffordd hollol gywir o ddisgrifio Mendoza
 
Dyma rai o'r teithiau yn Mendoza sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni:

Dinas Mendoza

Ariannin - Mendoza - Dinas Mendoza Mae’r bleserdaith yma o’r ddinas yn gyfle i ddod i adnabod ychydig ar Mendoza. Ymysg y llefydd byddwch yn ymweld â hwy bydd uchafbwyntiau sectorau gwahanol y ddinas, sef sectorau gweinyddol, masnachol, diwylliannol, hanesyddol a hamdden. Yr uchafbwyntiau bydd y prif eglwysi a gerddi, yr amgueddfeydd, park General San Martín, yr Alameda (llwyn poplys), adfeilion San Francisco, a golwgfan bryn Cerro de la Gloria. Bydd cyfleoedd i rodio yn y parciau a mwynhau'r amgylcheddau coediog unigryw.

Gwindai a Gwinoedd

Ariannin - Mendoza - Gwindai a Gwinoedd Mae enwogrwydd Mendoza am ei gwinoedd o ansawdd yn fyd-eang. Bydd y daith hon yn cynnig cyfle i adnabod a deall am hynodion windai mawr y rhanbarth.
 
Mae talaith Mendoza â thraddodiad arbennig mewn gwneud gwinoedd. Y cyfuniad o ei phridd, hinsawdd a lleoliad daearyddol yw'r prif resymau pam mae’r diwydiant gwin wedi sefydlu yn y dalaith. Mae’r daith yn mynd â chi o amgylch winllannoedd rhai o'r windai gorau yn yr Ariannin. Byddwch yn gallu rhodio o amgylch y safleoedd ac yna deall y cyfrinachau o wneud gwinoedd a chymryd rhan mewn blasu gwin.
 
Yn hwyrach, bydd y daith yn parhau i ffatri olew olewydd lle byddwch yn gallu blasu olew cain ac olewydd. Bydd y daith dŵad i ben gydag ymweliad ag eglwys Carrodilla lle byddwch yn gallu sylwi ar y ddelwedd o 'Noddwraig y Gwinllannoedd' sy'n gyforiog o hanes, mythau a chwedlau.

Mynydd Uchel

Ariannin - Mendoza - Mynydd Uchel Mae’r daith yn cychwyn yn ninas Mendoza drwy ardal ffermydd a gwinllannoedd sydd wedyn yn parhau ar ffordd droellog yn dilyn afon Mendoza gyda golygfeydd o gadwyn fynyddig El Cordón de Plata. Wedi gadael is iseldiroedd, byddwch yn cyrraedd ardal troedfryniau’r Andes. Bydd yr arhosiad cyntaf yn bentref bach mynyddig Potrerillos. Yna bydd y daith yn arwain i Uspallata, drwy dirweddau mynyddig â lliwiau newidiol a nifer o dwneli.
 
Bydd y daith y daith yn teithio drwy nifer eraill o bentrefydd mynyddig, Polvaredas, Punta de Vacas, Penitentes, tan gyrraedd adfeilion Puente del Inca. Mae’r lle yma yn llawn o ffurfiannau craig naturiol a rhyfeddol gyda dŵr thermal. Bydd Aconcagua (gwyliwr y cewri), pigyn uchaf De America, yn gymar pellennig yn ystod y rhan yma o’r daith wrth deithio tuag at Las Cuevas a’r ffin gyda Chile gydag uchder o 3,150 metr (11,150 troedfedd). Os bydd y tywydd a chyflwr y ffyrdd yn caniatáu bydd y daith yn parhau tan gyrraedd El Cristo Redentor (Crist y Gwaredwr) wedi ei leoli ymysg y copaon uchaf, cofeb fawreddog wedi ei chysegru i heddwch. Bydd y daith yn dychwelyd i ddinas Mendoza o’r fan hyn.

Sba Thermol Cacheuta

Ariannin - Mendoza - Sba Thermol Cacheuta Ymweliad â sba geothermol er mwyn ymlacio ac adfywio. Mae yna daith o tua 38 cilomedr (25 milltir) i Termas Cacheuta, parc dwr thermol sy’n ymwela ar ffrydiau poeth naturiol yn Cacheuta ar yr afon Mendoza yn droed fynyddoedd yr Andes. Mae gan y cyrchfan nifer o byllau thermol, unai yn yr awyr agored neu du fewn, gyda thymereddau rhwng 18º-39ºC. Ymdrochwch yn y pwll o’ch dewis wrth edmygu'r tirweddau amgylchynol. Y cyfleusterau bydd ar gael yn ystod eich ymweliad bydd ceudwll ager naturiol, rhaeadrau dwr, jacuzzi, cawodydd o wahanol fath, a phwll dŵr oer (er mwyn newid!), solariwm naturiol a phwll nofio dŵr thermol.
 
I ben y dudalen

Baner y Wladfa    Y Wladfa :

Baner y Wladfa    Teithiau i'r Wladfa :

Yr Ariannin    Yr Ariannin :

Brasil Tsile-Chile Periw-Peru    De America :

Linciau-Dolenni i'r Wlada, Patagonia    Linciau-Dolenni :

Hafan Y Wladfa Gwladfawyr Heddiw Gwybodaeth Gwesty Mapiau Cysylltu   |   Español English