Dyffryn Camwy – Byd Natur
Mae Dyffryn Isaf yr Afon Camwy yn cynnig seibiant braf o'r tirlun undonog Patagonia. Annogodd y dyffryn hwn, ynghyd â dyfroedd yr Afon Camwy, yr arloeswyr Cymreig i ymgartrefu yn yr ardal wrth iddynt chwilio am diriogaethau newydd lle y gallent cadw eu iaith, crefydd a diwylliant.
Dyma rai o'r teithiau yn Dyffryn Camwy â naws bywyd gwyll a byd natur iddynt sy’n cael eu cynnwys yn ein teithlenni:
Parc Palaeontoleg Bryn Gwyn
Y parc cyntaf o’i fath yn America Ladin. Mae ar ochr ddeheuol Dyffryn Camwy yn ardal Bryn Gwyn ger y Gaiman. Mae’n drysorfa o ffosilau ac mae nifer o rai gwerthfawr wedi eu darganfod yma. Mae cyfres ddaearegol a phalaeontoleg parc Bryn Gwyn yn eich galluogi i deithio 40 miliwn o flynyddoedd yn hanes y ddaear.
Byddwch yn cerdded ar hyd llwybr sy’n esgyn yn raddol i ben y bryniau drwy haenau o waddodion sydd yn cyfateb i’r gwahanol ffurfiannau daearegol. Mae’r daith yn gyfle i weld yn union lle a sut mae darganfod ffosilau a sefyll ar ben y dyffryn a mwynhau’r golygfeydd godidog Bryn Gwyn a’r ardaloedd cyfagos.
Amgueddfa Palaeontoleg MEF - Trelew
Yr amgueddfa yma yw’r fwyaf o’i bàth yn Ne America. Mae’r arddangosfeydd yn eich tywys i’r gorffennol i weld bywyd ein cyndadau a’r dinosoriaid oedd yn bresennol yn y rhanbarth am filiynau o flynyddoedd. Ymysg yr atyniadau, mae’r amgueddfa yn arddangos ysgerbydau gwahanol dinosoriaid. Nid yn unig yw’r amgueddfa yn ganolfan i arddangosfeydd gwych o’r safon orau, ond hefyd mae’n ganolfan gweithgareddau gwyddonol ac ymchwil ymysg y gorau yn y maes.